Mae dynes o Fethesda yn paratoi i gwblhau Her y Tri Chopa er mwyn hel arian ar gyfer Ysbyty Alder Hey.
Fel yr ysbyty arbenigol agosaf ar gyfer plant yr ardal, mae Corrina Williams, neu Coco fel yr adnabyddir, yn teimlo ei fod yn elusen deilwng ac yn gobeithio bydd pobl Dyffryn Ogwen yn barod i gefnogi hi a’i ffrind Claira ar yr her.
“Dyma le byddai unrhyw un o’n plant yn cael eu cyfeirio o’r ardal yma pe bai angen gofal meddygol pediatrig arbenigol ac maen nhw’n gwneud gwaith anhygoel mewn cyfnod anodd iawn,” meddai.
“Mae mab fy ffrind agos yn derbyn gofal anhygoel ganddynt a bydd yn parhau i wneud hynny am oes.
Mae hi’n paratoi ar gyfer yr her, a fydd yn golygu cyrraedd brig mynyddoedd uchaf Cymru, Yr Alban a Lloegr wedi iddi golli naw stôn yn ddiweddar.
“Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus eleni i gael llawdriniaeth ‘gastric bypass’ yn breifat, a’r canlyniad yw fy mod wedi colli 9 stôn ac wedi newid fy mywyd,” meddai Coco.
“Allai ddim meddwl am ffordd well o roi fy iechyd a ffitrwydd newydd i ddefnydd da na chefnogi achos Ysbyty Alder Hey a’u gwaith arbennig.
“Er y byddai’n wych pe bai unrhyw un yn teimlo y gallant fy noddi, dwi hefyd yn awyddus i glywed gan bobl sy’n gwybod am gyfleoedd codi arian y gallaf gymryd rhan ynddynt i roi hwb i’n cyfanswm. Dwi’n barod iawn i glywed syniadau i helpu i godi mwy o arian at yr achos da.”
Mae mwy o hanes yr her a gwybodaeth am sut i noddi ar gael yma.
Felly, beth am gefnogi Coco a Claira ar eu her arbennig – gobeithio y bydd yna fwy o’u hanes dros y misoedd nesaf wrth iddynt barhau efo’r hyfforddi cyn yr her fawr ei hun ym mis Mehefin.
I ddilyn yr hyfforddiant, ewch i gyfrif Instagram Coco a Claira.