gan
Carwyn
Er mai colli o drwch blewyn oedd hanes tîm y Warrington Wolves heddiw, roedd hi’n brynhawn i’w chofio i Josh Lynch.
Wedi chwarae i dimau ieuenctid Clwb Rygbi Bethesda fe arwyddodd Josh i dîm y “Wire” yn 2020.
Roedd o’n dechrau ei gêm broffesiynol gyntaf i dîm cyntaf Warrington heddiw yn Uwch-Gynghrair y “Super League”.
Ac er mai colli mewn gêm glos o 38 i 36 wnaeth y tîm yn erbyn Huddersfield, fe sgoriodd Josh Lynch gais i goroni diwrnod arbennig.
Llongyfarchiadau mawr iddo a braf gweld fod y dechrau gafodd o lawr ar gaeau Dol Ddafydd wedi talu iddo. Pob lwc am weddill y tymor!