Mae Llyfrgell Dyffryn Ogwen, Bethesda ynghyd â Llyfrgell Penygroes ar fin elwa o £56,000 trwy Gynllun Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru.
Bydd y gronfa’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r ddwy lyfrgell drwy ddarparu grant gwella a hynny er mwyn gwireddu cynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu Llyfrgell y Petha yn y ddau safle. Bydd yr arian hefyd yn cyfrannu at greu gardd llesiant yn Llyfrgell Dyffryn Ogwen, Bethesda.
Mae Llyfrgelloedd Gwynedd yn cydweithio gyda Dolan – sy’n cynrychioli mentrau cymunedol Partneriaeth Ogwen, Cwmni Bro Ffestiniog a’r Orsaf ym Mhenygroes – i ddatblygu Llyfrgelloedd Petha.
“Yn syml iawn mae Llyfrgelloedd Petha yn debyg i wasanaethau llyfrgelloedd traddodiadol, ond yn hytrach na menthyg llyfrau gellir benthyg Petha,” eglurodd cydlynydd prosiect Petha, Catrin Wager.
“Fel arfer maen nhw’n cynnig benthyg teclynnau megis peiriannau gwnïo, tŵls, offer garddio neu lanhau, nwyddau ar gyfer campio neu deganau.
“Drwy fenthyg yn hytrach na phrynu eitemau o’r fath, gellir arbed arian, arbed lle yn ein cartrefi, lleihau ar ein dibyniaeth ar adnoddau a lleihau gwastraff, sydd yn dod ac effaith amgylcheddol bositif.
“Mae’n newyddion gwych fod y gwasanaeth Llyfrgelloedd wedi ennill y grant hwn fydd yn cyflwyno gwasanaeth arloesol i drigolion Dyffrynnoedd Nantlle ac Ogwen, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r llyfrgelloedd i ddatblygu’r prosiect ac i wreiddio’r syniad o fenthyg eitemau yn ogystal â benthyg llyfrau yn y cymunedau yma.”
Bydd yr ardd lesiant yn Llyfrgell Dyffryn Ogwen yn defnyddio arbenigedd garddio cymunedol prosiect Dyffryn Gwyrdd i greu ardal i ymlacio, myfyrio ac ymgysylltu gyda natur wrth gynnig cyfle hefyd i ddathlu diwylliant llenyddol gyfoethog yr ardal.
Fel y bydd defnyddwyr y llyfrgell yn gwybod, mae Partneriaeth Ogwen eisoes wedi gwneud gwelliannau amgylcheddol i’r adeilad yn cynnwys gosod paneli solar Ynni Ogwen ar y to a gosod pwynt gwefru trydan a bydd y gwelliannau diweddaraf yma’n gam pellach i wyrddio’r adeilad.
Meddai Nia Gruffydd, Rheolwr Llyfrgelloedd Gwynedd:
“Rydym wedi gwirioni ein bod yn un o’r llond llaw o Lyfrgelloedd sydd wedi sicrhau cyllid eleni i wireddu ein cynlluniau uchelgeisiol i wella a datblygu ein gwasanaethau yn Llyfrgelloedd Penygroes a Dyffryn Ogwen.
“Mae Llyfrgelloedd yn cynnig llyfrau a mwy, a bydd y newidiadau byddwn yn gallu gwneud yn gwella profiadau a gwasanaethau defnyddwyr yn y ddwy ardal yma yn aruthrol.
“Rydym hefyd wrth ein bodd i allu gweithio gyda Partneriaeth Ogwen ac Yr Orsaf, Penygroes ar gynllun Petha, gan elwa ar eu cefnogaeth a’u harbenigedd mewn creu prosiectau cymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau trigolion lleol.
“Mae Llyfrgelloedd Penygroes a Dyffryn Ogwen yn llyfrgelloedd bychain ond bywiog sy’n cael eu cefnogi’n dda gan y gymuned leol. Mae benthyciadau llyfrau yn Llyfrgell Penygroes yn gyson uchel, a’r gweithgareddau amser stori a chynllun podlediad i blant a phobl ifanc yn Llyfrgell Dyffryn Ogwen yn denu plant a theuluoedd i gymryd rhan.
“Edrychwn ymlaen yn arw i ddatblygu ein gweledigaeth ar gyfer y ddwy lyfrgell yma gyda Mari Roberts, Cymhorthydd Mewn Gofal Llyfrgell Penygroes, a Kerry Walters, Cymhorthydd Mewn Gofal Llyfrgell Dyffryn Ogwen, sydd wedi gwneud cymaint yn barod i wneud y ddwy lyfrgell yn wasanaeth pwysig a chanolog i ddefnyddwyr.”