Beth am ddefnyddio Bws Ogwen am daith siopa?

Teithiau siopa i Ffordd Caernarfon ym Mangor i gychwyn

Carwyn
gan Carwyn
311583368_138333295615883

Yn dilyn ymgynghoriad diweddar am syniadau ar gyfer defnydd y bws trydan cymunedol dros fisoedd y gaeaf, mae gwasanaeth newydd yn cychwyn yn fuan.

Fel rhan o’r syniadau a gyflwynwyd oedd defnyddio’r bws mini i hebrwng trigolion i allu siopa. Felly, o 7 Tachwedd, bydd y bws yn cynnig teithiau siopa i Ffordd Gaernarfon yn wythnosol bob Dydd Llun yn cychwyn. Cost am y trip fydd £3 y pen.

Bydd angen archebu lle a gallwch wneud hynny trwy e-bosti cludiant@ogwen.org neu ffonio’r swyddfa ar 01248 602131.

Mi fydd modd eich danfon yn ôl i’ch cartref yn dilyn y daith siopa, gyda mannau casglu i’w gadarnhau yn dilyn ymatebion.

Bydd croeso i unrhyw un o Fethesda, Tregarth, Talybont, Rachub, Llanllechid, Gerlan a Mynydd Llandygai.

Am ragor o fanylion ewch i dudalen Facebook Bws Ogwen.