Mae gwaith gan artist o Fynydd Llandygai wedi ei ddethol i ennill gwobr celf arbennig fel rhan o arddangosfa o waith rhyngwladol yn Oriel Elysium, Abertawe.
Mae’r artist Gareth Griffith wedi cipio prif wobr nodedig Beep sy’n cael ei ddyfarnu bob dwy flynedd. Mae’n rhannu’r gamp gyda’r artist o ogledd Lloegr, Rachel Lancaster – gyda gwaith y ddau wedi eu dewis o blith celf gan 135 o artistiaid o ledled y byd.
Tasg yr artistiaid eleni oedd ymateb i’r thema benodol “Does dim byd wedi newid, mae popeth wedi newid”. Roedd rhestr hir o dros fil o artistiaid wedi gwneud cais i arddangos eleni, gyda’r 135 terfynol wedi eu dethol gan banel o arbenigwyr yn cynnwys enillwyr blaenorol ac arbenigwyr o’r byd celf.
“Y Crys Blewog”
Er mai crys digon cyffredin yr olwg ydi canolbwynt tridarn buddugol Gareth Griffith, mae’r gwaith yn eich tynnu i mewn i ail-edrych ac ystyried cyd-destun y dilledyn.
Dywed Gareth fod y gwaith yn seiliedig ar grys anfonwyd iddo gan un o’i feibion sy’n byw yn yr Eidal. Roedd y crys wedi ei roi i hongian y ei stiwdio gelf ac mae’r tridarn yn astudiaeth gofalus o’r dilledyn a roddwyd yn y peiriant golchi gyda blanced y ci a dyna esbonio rhywfaint am deitl y gwaith, “Y Crys Blewog”.
“Anrhydedd”
Mae arddangosfa Beep yn denu artistiaid cyfoes o wledydd ar draws y byd a chan sicrhau’r brif wobr, mae camp Gareth yn un sylweddol.
“Mae’r wobr yn anrhydedd mawr i mi,” meddai Gareth.
“Rwy’n edrych ymlaen i arddangos yn Abertawe gyda fy nghyd enillydd Rachel Lancaster yn arddangosfa Beep 2024.”
Cyfle i weld gwaith Gareth
Fel rhan o’r wobr, bydd arddangosfa unigol o waith Gareth i’w weld yn yr oriel nesaf Beep. Ond does dim rhaid aros tan 2024 i weld mwy o waith yr artist o Fynydd Llandygai.
Bydd y tridarn buddugol a sicrhaodd wobr Beep, “Y Crys Blewog” yn rhan o gasgliad o waith Gareth fydd yn Storiel ym Mangor fel rhan o’i arddangosfa “Ystafell yr Artist” o 8 Hydref tan 31 Rhagfyr yn ddiweddarach eleni.
Cofiwch hefyd fod gwaith buddugol Gareth i’w weld yn yr arddangosfa Beep yn Abertawe tan 10 Medi.