Ydych chi wedi llenwi holiadur ‘Ardal Ni 2035’ eto? Y bwriad yn ôl y cyngor sir ydi rhoi cyfle i bobl ddweud beth sy’n dda am eu hardal leol, beth sydd ddim cystal â beth sydd angen newid er mwyn gwneud eu hardal yn lle gwych i fyw ynddo erbyn 2035.
Ers lansio’r arolwg ddau fis yn ôl, mae nifer o bobl leol wedi bachu ar y cyfle i roi eu barn ar sut i wneud eu hardal leol yn lle gwell i fyw. Gyda’r arolwg ar agor tan ddiwedd mis Mehefin, mae Cyngor Gwynedd yn annog unrhyw un sydd heb fanteisio ar y cyfle eto, i ddweud eu dweud.
Mae’r ymarferiad yn canolbwyntio ar gymunedau unigol o fewn y sir ac sy’n holi barn pobl Gwynedd am ddyfodol eu hardal leol.
Gallwch lenwi’r holiadur:
- ar-lein drwy ymweld â’r wefan a dewis adran ‘Ardal Ni 2035 – Bro Ogwen’ o’r ddewislen;
- drwy geisio copi papur o’r llyfrgell neu Siop Gwynedd lleol;
- drwy ffonio 01766 771 000 i ofyn am gopi papur drwy’r post.
- Os ydych eisiau’r holiadur mewn iaith neu fformat arall e.e. fersiwn hawdd ei ddarllen, anfonwch e-bost i: EichBarn@gwynedd.llyw.cymru
“Pwyslais yn sgwâr ar y lleol”
“Mae’n galonogol gweld bod nifer o drigolion y sir eisoes wedi rhoi eu barn am eu hardal leol drwy gymryd y cyfle i lenwi holiadur Ardal Ni,” meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd.
“Bwriad ‘Ardal Ni 2035’ ydy gosod y pwyslais yn sgwâr ar y lleol. Drwy adnabod datrysiadau o lawr gwlad i fyny, gallwn adeiladu ar yr hyn sy’n dda, mynd i’r afael â’r pethau sydd ddim cystal â sbarduno’r cydweithio lleol fydd yn adfywio ein cymunedau.
“Rwy’n annog unrhyw un sydd heb fanteisio ar y cyfle i dreulio ychydig o funudau i ddweud eu dweud drwy fynd ati i lenwi holiadur ‘Ardal Ni 2035’.
“Mae’r cwestiynau yn syml ac yn hawdd eu dilyn, a drwy gwblhau’r holiadur byddwch yn cyfrannu at y nod o sicrhau fod adfywio lleol yn seiliedig ar eich blaenoriaethau chi fel y bobl sy’n byw yn y cymunedau hyn.”
Bydd yr holl ymatebion yn siapio’r gwaith o flaenoriaethu a datblygu cynlluniau adfywio lleol ar gyfer cymunedau Gwynedd dros y 15 mlynedd nesaf. Y cam nesaf wedyn fydd cydweithio a chyd-ddatblygu datrysiadau gyda sefydliadau, grwpiau ac unigolion.
Dweud eich dweud am dai
Yn ogystal â chlywed barn pobl Gwynedd am beth y dylai blaenoriaethau adfywio fod ar gyfer eu hardaloedd, mae holiadur byr hefyd ar agor i’w lenwi ar y wefan sy’n holi am anghenion tai pobl yn lleol. Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio gan Adran Tai ac Eiddo’r Cyngor wrth baratoi cynlluniau tai mewn cymunedau yn y sir.
Mae’r holiaduron ar agor tan ddiwedd mis Mehefin 2022.