Allech chi arlwyo ym Mwthyn Ogwen?

Cyfle i rywun sy’n arbenigo yn y maes – dyddiad cau cyflwyno ydi 30 Rhagfyr

Carwyn
gan Carwyn
319305893_524819886358428

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn awyddus i glywed gan unrhyw un allai gynnig gwasanaeth arlwyo ym Mwthyn Ogwen.

Mewn neges ar eu cyfrif Facebook dywedodd yr ymddiriedolaeth:

“Rydym yn chwilio am arbenigwr arlwyo ar gyfer canolfan breswyl Bwthyn Ogwen ger Bethesda.

“Bydd y contractwr llwyddiannus yn darparu ar gyfer grwpiau o bobl ifanc sy’n aros yn y ganolfan i brofi’r dirwedd naturiol leol gyda’r Outward Bound Trust.

“Mae hwn fel arfer yn weithrediad o ddydd Llun i ddydd Gwener, gydag archebion trwy gydol y flwyddyn.”

Datganiad o ddiddordeb erbyn 30 Rhagfyr

Bydd angen i unrhyw un sydd am gael eu hystyried cyflwyno datganiad o ddiddordeb i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol erbyn 30 Rhagfyr.

Mae mwy o wybodaeth am y cyfle ac i gyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gael yma. Os am sgwrs anffurfiol a mwy o fanylion, cysylltwch â Trystan Edwards ar 07779 222180.