Ailgylchu dros y ’Dolig

Dim angen gwneud apwyntiad i ddefnyddio canolfan ailgylchu Llandygai o 28 Rhagfyr tan 7 Ionawr

Gyda chyfnod y Nadolig yn aml yn golygu fod mwy o eitemau i’w hailgylchu, mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi na fydd angen gwneud apwyntiad i fynychu canolfannau ailgylchu’r sir o 28 Rhagfyr tan 7 Ionawr.

Fe gyflwynwyd y drefn gwneud apwyntiad pan ail-agorodd canolfannau ailgylchu’r Cyngor ar ôl y cyfnod clo cyntaf yn 2020. Mae’r drefn wedi parhau yn ei le ers hynny ar safle Stad Llandygai ac yng ngweddill canolfannau ailgylchu Gwynedd.

Trefniadau casglu dros y Nadolig

Ond gan gydnabod fod cyfnod y dathlu yn golygu rhywfaint o newid i drefniadau casglu ailgylchu a gwastraff bwyd i drigolion fyddai’n cael casgliad ar ddydd San Steffan, y gobaith ydi y bydd gwneud i ffwrdd a’r drefn apwyntiadau am y bythefnos ar ôl y Nadolig o gymorth i drigolion.

Ni fydd casgliadau gwastraff cartref (bin olwyn gwyrdd neu sachau duon) ar ddydd San Steffan (26 Rhagfyr), dyma’r unig ŵyl y banc o’r flwyddyn pryd nad ydi criwiau gwastraff Gwynedd yn casglu. Bydd pawb fyddai fel arfer yn cael casgliad gwastraff cartref ar y diwrnod hwnnw yn derbyn casgliad ar ddydd Sadwrn, 24 Rhagfyr – ond ni fydd ailgylchu a bwyd yn cael ei hel tan yr wytnos wedyn.

Er eu bod yn Wyliau Banc, bydd casgliadau biniau olwyn gwyrdd a sachau du, ailgylchu a bwyd yn cael eu cynnal fel arfer ar ddydd Mawrth, 27 Rhagfyr a dydd Llun, 2 Ionawr.

Gwneud y mwyaf o ganolfannau ailgylchu

“Er fod llawer y gallwn i gyd ei wneud i ail-ddefnyddio a cheisio torri lawr ar wastraff di-angen wrth brynu dros y Nadolig, rydan ni’n sylweddoli fod cyfnod y dathlu yn gallu golygu fod mwy o sbwriel ac ailgylchu yn hel mewn cartrefi,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd.

“Er mwyn cynorthwyo teuluoedd dros y cyfnod, rydan ni’n annog pobl Gwynedd i wneud y mwyaf o ganolfannau ailgylchu’r Cyngor. I’w gwneud yn haws i drigolion, ni fydd angen gwneud apwyntiad i fynychu canolfannau ailgylchu’r Cyngor yn y cyfnod rhwng 28 Rhagfyr a dydd Sadwrn, 7 Ionawr pan fydd y canolfannau ar agor.”

Dim rhaid rhuthro

Gan nodi fod y canolfannau yn gallu bod yn brysur yr adeg yma o’r flwyddyn, mae’r Cyngor yn annog pobl i gymryd pwyll a dychwelyd ar adeg arall os ydi hi’n edrych yn brysur. Wedi’r cwbl, mi fydd y ganolfan ar agor heb apwyntiad tan ddydd Sadwrn, 7 Ionawr.

Eglura’r Cynghorydd Dafydd Meurig: “…mi wyddon ni fod nifer o bobl yn gwneud defnydd o’r canolfannau ar ôl y Nadolig, felly cofiwch nad oes rhaid rhuthro lawr i’r ganolfan ac os welwch chi fod y ganolfan yn brysur ystyriwch ddod yn ôl ar gyfnod distawach. Mae’r canolfannau ar agor o 9am tan 4pm, ond cofiwch wirio ddyddiau agor eich canolfan leol cyn mynd draw.

“Mae cyngor a gwybodaeth am ailgylchu a gwastraff ar gael ar wefan y Cyngor ar www.gwynedd.llyw.cymru/ailgylchu ac mae manylion hwylus am y canolfannau ailgylchu a’ch dyddiadau casglu ar gyfer y flwyddyn hefyd ar gael i’w weld yn hwylus trwy lawrlwytho ‘apGwynedd’ i’ch ffôn glyfar neu declyn llechen.”

Bydd canolfan ailgylchu Stad Llandygai ar agor o 9am tan 4pm o ddydd Mercher, 28 Rhagfyr tan ddydd Sadwrn, 31 Rhagfyr. Yna yn ystod yr wythnos ganlynol, bydd y ganolfan ar agor o 9am tan 4pm fel arfer (Llun i Sadwrn). Ni fydd angen trefnu apwyntiad yn y cyfnod yma (28 Rhagfyr tan 7 Ionawr).