Agoriad swyddogol arddangosfa Gareth Griffith

Gwaith yr artist o Fynydd Llandygai i’w weld yn Storiel

Carwyn
gan Carwyn
PV_GG_AW-page-001-1

Mae agoriad swyddogol arddangosfa ‘Ystafell Artist’ o waith Gareth Griffith yn cael ei gynnal yn Storiel, Bangor ar ddydd Sadwrn yma, 15 Hydref.

Fel rhan o’r agoriad a fydd hefyd yn cynnwys arddangosfa o waith Audrey West, bydd cyfle i ddysgu mwy am waith yr artistiaid. Bydd arddangosfa Gareth yn rhoi cyfle i dreiddio i waith diweddar o’r stiwdio, gan ddathlu’r proses creadigol.

Bydd yr agoriad ymlaen o 1pm tan 2.30pm, a bydd Cegin Caribi yn cynnig gwledd hefyd, gyda’r bwyd ar gael i’w archebu o 12.30-4.30pm.

Ewch draw i fwynhau’r gwaith – mae’r arddangosfeydd ymlaen yn Storiel tan 31 Rhagfyr 2022. Mae Storiel ar agor Mawrth i Sadwrn (11am-5pm).