Aeth Siân Gwenllian AS a’r cynghorydd lleol Rheinallt Puw draw i’r clwb rygbi yn ddiweddar.
Ariannwyd y gwaith adnewyddu yn bennaf trwy werthu’r hen glwb i Grŵp Cynefin i’w droi’n dai i bobl leol, yn ogystal â grantiau a ddarparwyd yn bennaf gan y Loteri Fawr, cronfa ranbarthol Llywodraeth Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Chyngor Gwynedd.
Yn ddiweddar aeth Siân Gwenllian AS, yr Aelod o’r Senedd dros yr ardal draw i’r clwb, ynghyd â’r Cyng. Rheinallt Puw, sy’n cynrychioli ward Ogwen ar Gyngor Gwynedd.
Dywedodd yr AS lleol “Mae’r gwaith adnewyddu wedi darparu lle a chyfleusterau hanfodol ar gyfer y gymuned, busnes a chwaraeon lleol.
“Mae gwaith hanfodol wedi’i wneud, gwaith sydd wedi darparu mwy o ofod a storfeydd.
“Roedd yn wych ymweld â’r safle, a gweld drosof fy hun y cyfleusterau gwych, sydd wir yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif.”
Ychwanegodd y cynghorydd sir Gwynedd dros Fethesda, Rheinallt Puw;
“Agorodd clwb newydd Bethesda ym mis Mawrth 2019, ac mae wedi bod, a bydd yn parhau i fod yn adnodd cymunedol gwerthfawr i Ddyffryn Ogwen ar ôl-Covid.
“Rwy’n falch bod y clwb bellach yn aml-ddefnydd, ac yn ased go iawn i’r gymuned gyfan ym Methesda.”