Dim Sioe eleni

Pwyllgor Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen yn cyhoeddi newyddion anorfod

Carwyn
gan Carwyn

Mae trefnwyr Sioe Dyffryn Ogwen wedi cyhoeddi na fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn 2021.

Oherwydd y cyfyngiadau a’r ansicrwydd yn sgîl Coronafeirws, doedd fawr o ddewis gan y trefnwyr.

Mewn neges ar dudalen Facebook, noda’r trefnwyr: 

“Yn dilyn trafodaeth, ac o dan yr amgylchiad bresennol rydym fel pwyllgor wedi dod i’r benderfyniad ein bod am ganslo ein sioe eto eleni.

“Nid yw wedi bod yn benderfyniad hawdd i’w neud ond yn teimlo ei fod yn benderfyniad cywir er lles y gymuned.

“…diolch i bawb am eich cefnogaeth a gobeithio eich gweld yn 2022.”

Mae’n dilyn cyhoeddiadau tebyg gan drefnwyr digwyddiadau eraill o’r fath a chanslo sioe’r dyffryn yn 2020 oherwydd Covid-19.

Gan obeithio y bydd modd trefnu clamp o sioe yn 2022!