Mae cynllun cyffrous ar droed i sefydlu ‘Llyfrgell y Petha’ yn Nyffryn Ogwen fydd yn rhoi cyfle i bobl fenthyg amrywiol ddeunyddiau.
Yn rhannu egwyddor llyfrgell draddodiadol lle mae pobl wedi arfer cael benthyg llyfrau, bydd y cynllun yma yn dechrau yn Nyffryn Ogwen, Bro Ffestiniog a Dyffryn Nantlle.
Bwriad y cynllun fydd rhoi mynediad fforddiadwy i unrhyw berson at bob math o nwyddau gwahanol, a drwy fenthyg yn hytrach na phrynu, bydd hefyd yn ein helpu ni i gyd i leihau ein hôl troed carbon.
“Eich llyfrgell chi fydd o”
Wrth lansio arolwg i holi barn darpar ddefnyddwyr, mae neges gan y prosiect yn dweud:
“Mae Llyfrgell y Petha yn syniad syml; yr un peth a llyfrgell, ond yn lle llyfrau, da chi’n gallu benthyg petha!
“Drwy fenthyg yn hytrach na phrynu nwyddau da chi ddim yn eu defnyddio’n aml, da chi’n arbed arian, arbed lle yn eich cartref, a lleihau gwastraff a’ch ôl-troed carbon.
“Eich llyfrgell chi fydd o, felly da ni’n awyddus i glywed eich barn am y syniad. Os gallech sbario 5 munud o’ch amser, byddwn yn hynod ddiolchgar!”
Fel cam cyntaf, mae cais i bobl leol rannu eu barn am y syniad. Gallwch ddweud eich dweud yma.
Mae ‘Petha’ yn brosiect peilot sy’n cael ei weithredu ar y cyd rhwng Dolan, Partneriaeth Ogwen, Cwmni Bro Ffestiniog, Yr Orsaf, Cyngor Gwynedd ac Arloesi Gwynedd Wledig.