gan
Menna Jones
Bydd Hwyl yr Haf yn cael ei gynnal yn yr ardd o flaen Capel Jeriwsalem fore Sul, 4ydd o Orffennaf rhwng 10 a 11.30am.
Cyfle i chwarae gemau a gwneud crefftau, a chwrdd hefyd ag arweinwyr y Clwb Bore Sul, a fydd yn cael ei gynnal gan Ysgol Sul Jeriwsalem. Mae’n argoeli i fod yn fore braf!
Ond os daw’r glaw byddwn yn yr ystafell uchaf yn y Capel, lle mae digon o le.
Dewch yn llu a dewch â’ch ffrindiau. Dewch â phicnic hefyd os ydych chi eisiau!