Mae Geraint sy’n berchennog busnes sy’n gweithio ym maes amaeth a bwyd yn dweud ei fod wedi addasu’r prosiectau mae’n gyfrifol amdanynt.
Bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd gyda brand bwyd ‘Jones‘ a’r creision poblogaidd. Ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae hefyd wedi dechrau cynhyrchu pop-corn a hefyd yn symud ati i gynhyrchu byrbrydau fel cacennau cri a bara brith sy’n cael ei gynhyrchu yn Llanllechid.
Dywed fod y 12-mis diwethaf wedi bod yn heriol, ond mae wedi ceisio defnyddio’r amser i ddatblygu cynnyrch newydd a hefyd wedi datblygu gwefan newydd sbon i werthu a hyrwyddo’r bwydydd mae’n ymwneud â nhw, sef www.blasus.cymru.
Cwestiynau mawr am dwristiaeth
Dywed Geraint fod y cyfnod ers dyfodiad Covid-19 wedi gwneud iddo sylweddoli mor ffodus ydym o fyw yma yn Nyffryn Ogwen – cyfle i wneud y mwyaf o’r awyr iach, y gymuned glos a’r diwylliant unigryw.
Mae’n teimlo fod y cyfnod wedi amlygu cwestiynau mawr am dwristiaeth. Tra bod ei gwmni yn ddibynnol ar dwristiaeth i raddau mae’n teimlo fod y diwydiant yn costio i ni fel cymuned hefyd.
Mae’n gofyn y cwestiwn pa fath o dwristiaeth yr ydym ni am ei gael yma a pha mor bwysig ydi hi fod y gymuned leol yn rhan amlwg wrth benderfynu ar yr ateb.
Am fwy o wybodaeth am yr amrywiol brosiectau mae Geraint yn ymwneud â nhw, ewch i www.lafan.cymru.