Criw o Fethesda i ddringio mynydd uchaf Prydain.
Ddiwedd y mis bydd 23 o aelodau o Glwb Rygbi Bethesda yn dringo Ben Nevis, gan godi arian tuag at achos da.
Bydd y daith yn cymryd lle ar ddydd Gwener 25ain o Fehefin. Mae’r grŵp wedi bod yn ymarfer yn gyson ar fynyddoedd yr ardal, gyda sawl un ohonynt yn ddringwyr profiadol.
Wedi ei leoli yn mynyddoedd y Grampian ger Fort William yng Ngogledd yr Alban mae copa Ben Nevis yn 1345m, sy’n 260m uwch na chopa Yr Wyddfa. Y darogan yw y bydd yr amodau ar gopa Ben Nevis yn ddipyn gwahanol i’r tywydd braf rydym wedi ei weld yn Nyffryn Ogwen yr wythnos hon.
Mae’r daith, sy’n cael ei drefnu gan Iain Buchanan, yn codi arian tuag at elusen Awyr Las Gogledd Cymru. Elusen sy’n cefnogi’r NHS yw Awyr Las, gan godi arian i wella cyfleusterau, offer a gwasanaethau i’r rhai sydd ei angen (https://awyrlas.org.uk).
Hyd yma mae’r grŵp wedi casglu £1,840 tuag at Awyr Las ac yn agos iawn at eu targed gwreiddiol o £2,500. Gallwch gyfrannu tuag at yr achos hwn drwy https://www.justgiving.com/fundraising/ben-nevis-crb?utm_source=facebook&fbclid=IwAR3e_upKSr-lhT98iFZnOxdKS71zVFHyS6XIMFLvshHKQoze7qBU72dlwK8