Mae Cyngor Cymuned Llanllechid a Menter Iaith Dyffryn Ogwen yn anfodlon iawn ac yn bryderus am y modd y mae Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd a’r gymdeithas dai, Adra, wedi gweithredu wrth newid natur a bwriad y cais cynllunio ar gyfer Cae Rhosydd, Rachub.
Mae’r ddau gorff wedi gwneud llanast’ difrifol mewn perthynas â’r datblygiad tai a fwriedir ar gyfer Cae Rhosydd, Rachub. O ganlyniad i gamweinyddu dybryd, ni fydd tai marchnad agored o gwbl yn y datblygiad, a bydd pobl Talybont yn cael blaenoriaeth dros bobl Rachub efo’r tai cymdeithasol. Yn naturiol, mae hyn wedi cythruddo trigolion Rachub a’r cyffiniau.
Y bwriad gwreiddiol gan gymdeithas dai Adra oedd codi 30 o dai i ddiwallu anghenion lleol, sef 15 o dai marchnad agored a 15 o dai cymdeithasol. Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal cyn i Adra gyflwyno cais cynllunio i Gyngor Gwynedd. At ei gilydd, roedd cefnogaeth i’r datblygiad oherwydd y byddai cyfle i bobl leol fedru rhentu tŷ neu brynu tŷ am bris o fewn eu cyrraedd. Cafodd y cais ganiatâd cynllunio yn gynnar yn 2020.
Ar ddechrau 2020, darparwyd y wybodaeth ganlynol gan adra am anghenion tai yn lleol i gefnogi’r cais gwreiddiol am 15 o dai rhent cymdeithasol a 15 o dai i’w gwerthu ar y farchnad agored:
- O fewn ward Rachub yn bresennol mae 103 o bobl ar Restr Tim Opsiynau Tai’r Cyngor mewn angen am unedau 1 i 5 llofft gan gynnwys 8% angen byngalo 2 lofft; 9% angen fflat 1 llofft; 11% angen fflat 2 lofft; 19% angen tŷ 2 lofft a 14% angen tŷ 3 llofft.
- Mae’r ffigyrau uchod ar y Rhestr Tim Opsiynau yn cynyddu’n sylweddol pe bai wardiau cyfagos yn cael eu hystyried sy’n cynnwys Llanllechid, Ogwen, Tregarth, Gerlan a Bethesda ble mae 258 angen tŷ 1 llofft, 355 angen tŷ 2 lofft, 180 angen tŷ 3 llofft, 56 angen tŷ 4 llofft a 3 angen tŷ 5 llofft.
Fodd bynnag, daeth yn amlwg bod cymdeithas dai Adra wedi derbyn caniatâd yn ystod Rhagfyr 2020 i newid natur y datblygiad ar safle Cae Rhosydd o’r hyn a dderbyniodd ganiatâd cynllunio yn wreiddiol. Erbyn hyn, y bwriad yw datblygu 30 o dai cymdeithasol ar rent cyffredinol neu ganolraddol yn unig ar y safle sy’n golygu na fydd darpariaeth tai marchnad agored i’w gwerthu yn cael ei chynnig i gyfarfod y galw’n lleol. Ar ben hynny, bydd pobl Talybont yn cael blaenoriaeth dros bobl Rachub am y tai cymdeithasol gan fod Rachub o fewn terfynau Cyngor Cymuned Bethesda. Mae Cae Rhosydd o fewn terfynau Cyngor Cymuned Llanllechid, ac yn ôl trefn fandio y cyngor sir, rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sydd â chysylltiad ag ardal y cyngor cymuned.
Erbyn hyn, mae Cyngor Cymuned Llanllechid a Menter Iaith Dyffryn Ogwen wedi herio’r broses a ddilynwyd gan Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd i ganiatáu newidiadau sylfaenol a sylweddol I’r cynllun datblygu – newidiadau sylweddol i natur a niferoedd categorïau’r tai, ac felly ym mwriad a phwrpas y datblygiad arfaethedig o ran diwallu anghenion y gymuned leol. Mae’r newidiadau wedi eu caniatáu heb ddarparu cyfle i ymgynghori gyda’r gymuned leol ar y newidiadau i’r cynllun gwreiddiol yr ymgynghorwyd arno yn ystod haf 2019 i ddarparu 15 o dai rhent cymdeithasol a 15 o dai marchnad agored ar gyfer pobl leol am bris o fewn eu cyrraedd.
Mae’r broses a ddilynwyd wrth ymdrin â’r cais cynllunio hwn yn dangos yn gwbl glir nad yw Cyngor Gwynedd na chymdeithas dai Adra yn cymryd unrhyw sylw o’r sylwadau a gyflwynir gan y gymuned a’r rhanddeiliaid allweddol yn lleol wrth gyflwyno cais cynllunio gerbron y Pwyllgor Cynllunio sirol.
O ganlyniad i’r camweinyddu sydd wedi digwydd wrth ymdrin â’r cais cynllunio hwn yng Nghae Rhosydd, Rachub, galwn ar Gyngor Gwynedd ac Adra i ddatrys y sefyllfa mor fuan ag sy’n bosib yn unol â dymuniad y cynghorau cymuned a’r gymuned leol, ac maen nhw wedi derbyn llythyrau yn galw am hynny.
Gobeithio’n fawr y bydd swyddogion y ddau gorff yn datrys y sefyllfa gwbl annerbyniol hon fel bod barn y cyhoedd yn cael ei pharchu. Os mai bwriad y datblygiad tai ydi gwasanaethu’r ardal drwy ddiwallu anghenion tai pobl leol, yna dyletswydd y cyngor sir ac Adra ydi mynd ati’n syth i drefnu –
1. Bod y cynllun gwreiddiol yn cael ei ddatblygu, sef 15 tŷ marchnad agored a 15 tŷ cymdeithasol ar gyfer pobl leol.
2. Bod pobl sydd â chysylltiad â Rachub yn cael blaenoriaeth fel ymgeiswyr am y tai cymdeithasol, fel yr addawyd gan Adra ar y cychwyn.
3. Bod y tai marchnad agored ar gyfer pobl leol am bris o fewn eu cyrraedd, fel yr addawyd gan Adra.