Ai chi yw cynghorydd nesaf eich ardal?

Fyddwch chi’n camu i’r adwy?

Osian Owen: Ar Goedd
gan Osian Owen: Ar Goedd
Dos-amdani

Rhai o gynghorwyr presennol yr ardal

Ymhen 6 mis bydd pobol Dyffryn Ogwen yn ethol eu cynghorwyr lleol.

 

Cyn belled â bod yr amgylchiadau yn caniatáu, bydd etholiadau ar gyfer Cyngor Gwynedd yn cael eu cynnal mis Mai 2022.

 

Mae cynghorwyr sy’n rhan o grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd wedi dod at ei gilydd er mwyn sicrhau bod “amrywiaeth iach” o ymgeiswyr yn camu i’r adwy yn etholiadau’r flwyddyn nesaf.

 

Yn ôl y grŵp,

“Mae angen bod yn rhagweithiol wrth wella amrywiaeth ar gynghorau Cymru.

 

“Mae angen pobol ar ein cynghorau sy’n cynrychioli amrywiaeth cymdeithas.

 

“Mae angen inni ddechrau meddwl y tu allan i fowld cynghorydd sir ‘traddodiadol.’

 

“Nid dyn gwyn mewn siwt lwyd ydi pob cynghorydd sir.

 

“Mae angen sicrhau bod ein cynrychiolwyr gwleidyddol yn dod o bob cefndir; mae’n sicrhau bod lleisiau pawb yn cael eu cynrychioli!”

 

Ar hyn o bryd mae Rheinallt Puw yn cynrychioli ward Ogwen ar Gyngor Gwynedd, ac mae wedi trafod ei benderfyniad i sefyll. Mae Rheinallt yn nyrs seiciatryddol a thad i bedwar;

“Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl Dyffryn Ogwen oedd fy ysgogiad i, fel ymgeisydd.

“Fy milltir sgwâr sy’n bwysig a dylanwadu er eu lles.”

 

Mae’r grŵp wedi trefnu digwyddiad rhithiol er mwyn denu ymgeiswyr o amrywiaeth o gefndiroedd.

 

Ar ddydd Llun, Hydref y 4ydd cynhelir Dos Amdani, sesiwn anffurfiol i’r rhai sy’n ystyried sefyll yn Etholiadau’r Cyngor flwyddyn nesaf.

 

Bydd y sesiwn yn cynnwys cyngor gan unigolion o gefndiroedd amrywiol sydd wedi bod yn gynghorwyr.

 

Mae’r cynghorwyr yn gobeithio chwalu ambell fyth am fod yn gynghorwyr, yn ogystal â thrafod y gefnogaeth sydd ar gael i bobol sy’n simsanu ynghylch sefyll ai peidio, er enghraifft, y gefnogaeth sydd ar gael i rieni sengl.

 

Mae’r grŵp o gynghorwyr yn dod o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys seicolegydd clinigol, gwirfoddolwr gyda ffoaduriaid, actores adnabyddus, gyrrwr ambiwlans, amgylcheddwr a nyrs seiciatryddol.

 

Mae croeso i bawb i’r sesiwn, cyn belled â’u bod yn cofrestru drwy ddilyn y ddolen hon.

 

Er mwyn derbyn diweddariadau ar y digwyddiad Facebook, dilynwch y ddolen hon.