Cadw strydoedd Bethesda yn lân

Mae dwy chwaer wedi cael llond bol ar weld baw ci wedi ei adael ar y palmant ac wedi mynd ati i annog perchnogion i lanhau ar ôl eu hanifeiliaid. 

clawr

Caty ac Ela

llun2

Ela a Caty gyda’r bagiau maent wedi eu gosod

llun3

Un diwrnod aethom ni am dro ar hyd stryd fawr Bethesda. Roedden ni yn flin a drist pan welom ni baw ci ym mhobman.

Roedden ni wedi cael llond bol ar yr holl gwynion a doedd yna neb wedi gwneud rhywbeth am y peth. Felly, penderfynom ni i drio datrys y broblem yma er mwyn cadw strydoedd Bethesda yn lan a gwneud i bawb wenu.

Ar ôl chwilio ar y we am syniadau, casglom ni’r holl adnoddau i wneud dosbarthwyr bagiau baw ci i roi o amgylch y pentref. Cawsom help gan nain a mam i greu’r dosbarthwyr allan o hen boteli plastig, posteri wedi ei lamineiddio, bagiau baw ci a ‘cable ties’.

Erbyn gorffen roedd gennym ni 10 dosbarthwyr gyda 40 bag ymhob un. Ar ôl cynllunio lle i roi’r dosbarthwyr, penderfynom i’w rhoi ar bolion lamp rhwng llwybr Ysgol Abercaseg a Chanolfan iechyd yr hen orsaf. Byddem yn cadw llygad arnynt ac yn eu hail-lenwi gyda bagiau baw ci pan fydd angen. Rydym wedi derbyn sylwadau a gweld y gwahaniaeth ein hunain yn barod!

Os hoffwch chi gyfrannu bagiau baw ci er mwyn ail lenwi’r dosbarthwyr gallwch eu danfon i fasged casglu Banc Bwyd Bethesda yn Londis.

Gan Ela Mai Williams a Caty Emma Williams

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.