Mae dros flwyddyn ers y clo mawr cyntaf. I nodi hynny ac i ystyried sut mae’r 12 mis a rhagor diwethaf wedi effeithio ar unigolion a sefydliadau yma yn lleol, mae Ogwen360 yn holi rhai o drigolion yr ardal a phobl sy’n gysylltiedig gyda’r Dyffryn.
Cawn glywed sut mae’r cyfnod Covid wedi effeithio arnyn nhw yn eu bywyd bob dydd, sut mae wedi dylanwadau ar eu gwaith a sut maent yn teimlo mae wedi effeithio ar gymuned Dyffryn Ogwen.
Beca Roberts, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol gyda Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau ydi’r cyntaf i gyfrannu a diolch iddi am fod mor barod i rannu ei phrofiadau.
Daw Beca o Fethesda ac mae ganddi gysylltiadau personol cryf â thirwedd y Carneddau. Ymunodd â’r Cynllun ym mis Mehefin 2020 ac felly fel llawer iawn o bobl, mae hi’n gweithio o gartref ac yn cynnal llawer o’i gwaith o ymgysylltu gyda’r gymuned leol trwy gyfrwng cyfrifiadur am y tro.
Mae rhagor o fanylion am Bartneriaeth Tirwedd y Carneddau ar gael yma.
Os hoffech chi gyfrannu i’r gyfres “Y Flwyddyn Aeth Heibio”, cysylltwch gyda thîm Ogwen360 ar y cyfrifon Twitter neu Facebook.