Nos Lun, roedd hi’n be sy’n cael ei alw’n ‘Blue Monday’- diwrnod sy’n cael ei gydnabod fel un o’r anoddaf yn y flwyddyn. Gyda’r Nadolig drosodd, a’r gwanwyn eto i ddangos ei wyneb, mae’n cael ei weld fel cyfnod tywyll a llwm, ble mae sawl un yn teimlo’n isel.
Er nad oedd yn fwriadol, roedd yn addas iawn oedd mai hon oedd noson cyfarfod Clwb Darllen Dyffryn Ogwen, be roedd ‘Tu ôl i’r Awyr’, nofel gan awdur newydd o Ddyffryn Nantlle, Megan Angharad Hunter, yn caei ei drafod.
Bydd un o aelodau’r clwb yn sgwennu adolygiad lawn yn fuan, ond am rŵan, mae’n saff i ddweud fod pawb yn gytûn fod hon yn nofel arbennig. Mae yno aeddfedrwydd a chrefft i’r sgwennu sy’n arwain y darllenydd ar siwrne ddwys gyda’r ddau brif gymeriad, Anest a Deian; dau berson ifanc sy’n wynebu heriau hefo’u hiechyd meddwl.
Fel nodwyd yn y cyfarfod, mae’n anarferol cael nofel ble mae’r naratif yn cael ei arwain gan ddau lais yn y person cyntaf. Ond rhywsut, mae’r ddau yn llwyddo i fod yn hollol unigryw a fresh, ac mae’r arddull yn arddangos mewn ffordd hollol newydd, cymhlethdod byw hefo salwch meddwl.
Tynnwyd paralel rhwng y nofel hon ac ‘Un Nos Ola’ Leuad’ ac roedd cytundeb fod hon yn gyfrol sydd wedi ennill ei phlwy yn sydyn iawn fel un o gampweithiau llenyddiaeth Gymraeg. Does fawr o syndod ei bod wedi mynd allan o brint yn fuan ar ôl ei chyhoeddi, mae’n llyfr arbennig sy’n llwyddo i agor y drws i drafodaeth a dealltwriaeth well, o faes arbennig o anodd.
Pan ofynnwyd os oedd un rhywbeth nad oedd aelodau’r clwb yn hoffi am y nofel, roedd distawrwydd – sy’n dweud y cyfan!
Bydd y Clwb Darllen yn cwrdd nesaf ar yr 8fed o Fawrth ac mae croeso i unrhyw un ymuno a ni (gellir canfod gwybodaeth yn y grŵp facebook ‘Clwb Darllen Dyffryn Ogwen’).
Gellir prynu’r llyfr fydd yn cael ei drafod yn y cyfarfod hwnnw drwy Cadwyn Ogwen tan hanner nos Sul (24/01/2021) a bydd yn cael ei ddanfon fel syrpries, hefo rhyw anrheg bach neu ddau, Dydd Iau. Bydd enw’r llyfr yn cael ei ddatgelu ar ôl i Cadwyn orffen danfon.