Panto Llanast Llan yn Neuadd Ogwen Yfory a Pnawn Dydd Sadwrn!

Panto Llan Llanast! Dewch i weld!

Jon Stammers
gan Jon Stammers

“Zippo Zipare” – Cymeriad fi yn y panto Llechen Las “Bali Wali Honco” yn ôl yn 2017.

Penwythnos yma dwi ar lwyfan Neuadd Ogwen efo gweddill Cwmni Drama Llechen Las, yn “actio” am y 4ydd tro mewn panto Pesda hollol boncyrs, wedi ei sgwennu gan Gaynor Elis-Williams a Marian Jones.  Bydd yn lawer o hwyl ac yn werth ei weld!!

Eleni mae’r byd-enwog Deri Tomos yn cymryd rhan hefyd, yn chwarae y “Tad Cled”.  Dwi’n chwarae “mad scientist” tro yma, sy’n trio gorffen roced i’w lywio i’r gofod i achub Phyllis a Heath sydd ar goll a Blaned Talog ar ôl anghofio gwisgo gwregys diogelwch ar reid Galactica yn Alton Towers…

Ie, dwi ddim rili yn deall y plot chwaith ond ‘dy hynna erioed wedi stopio ni na’r gynulleidfa ei fwynhau o’r blaen!!

Dewch yn llu!

Neuadd Ogwen : Nos Wener am 7; Dydd Sadwrn 18 am 2:30.

I brynu tocyn nos Wener ewch i https://neuaddogwen.com/events/panto-llechen-las-llanast-llan/ ac am docyn pnawn Sadwrn cliciwch yma https://neuaddogwen.com/events/panto-llechen-las-llanast-llan-2/

“Zippo Zipare” – Cymeriad fi yn y panto Llechen Las “Bali Wali Honco” yn ôl yn 2017.
Berwyn Boncyrs – Cymeriad fi yn y panto eleni!