Mae Gwydion Rhys, Rachub, wedi bod yn brysur yn cyfansoddi yn ystod y cyfnod clo. Mae’n un o 25 cyfansoddwr neu grŵp sydd wedi eu comisiynu gan y Llyfrgell Genedlaethol i gyfansoddi cân a’i pherfformio.
Roedd rhaid iddo wrando ar ffeiliau sain o archifau sain y Llyfrgell, ac ysgrifennu cân yn seiliedig ar un o’r ffeiliau. Dewisodd recordiad o gyfweliad Saesneg Glenys James gyda Nan Davies, gwraig o Langennech yn wreiddiol a ymfudodd i Ganada gyda’i gŵr a’u plentyn bach ym 1910.
Fel mae’n digwydd, ysbrydolodd yr un cyfweliad gân gwbl wahanol gan Branwen Williams fel rhan o’r un prosiect, ‘Datgloi ein Treftadaeth Sain’. Os ewch i dudalen YouTube y Llyfrgell Genedlaethol, gallwch weld a chlywed y caneuon a gomisiynwyd.
Bydd y Llyfrgell yn rhyddhau tair cân yr wythnos dros gyfnod yr haf, ac mae cryn amrywiaeth yn y caneuon sydd wedi eu hysgrifennu, o’r gwerinol a’r poblogaidd i’r avant-garde.