Clwb Darllen Dyffryn Ogwen

‘Llyfr y Mis’ yn cael ei lansio, gyda’r gobaith o godi gwen i ddarllenwyr y dyffryn.

Catrin Wager
gan Catrin Wager

Does dim amheuaeth fod llawer ohonom yn bryderus am y gaeaf i ddod. A ninnau mewn cyfnod clo unwaith eto, mae’n teimlo’n bwysicach nag erioed ein bod yn gwneud ymdrech i gadw mewn cyswllt ac eraill.

Mae Clwb Darllen Dyffryn Ogwen, a sefydlwyd gan Cadi Elen, un o swyddogion Byw a Bod Partneriaeth Ogwen, yn gyfle gwych i ddod ynghyd yn rhithiol i drafod a rhannu barn am lyfrau cyfoes Cymraeg. Diolch i waith arbennig Cadi, mae’r clwb wedi cael cychwyn gwych.  Ond, a hithau bellach ar drothwy antur newydd yn y brifysgol, dwi wedi gwirfoddoli i gymryd yr awenau am y tro.

Bydd ffurf y clwb yn newid ychydig dros y misoedd nesaf, a’r syniad ydy i ddod ac elfen o syrpreis a hwyl i’r holl beth. Yn lle cyhoeddi enw’r llyfr yn syth, byddwn yn cynnig cyfle i drigolion archebu llyfr, heb wybod be fydd o, drwy Gadwyn Ogwen. Bydd y llyfr wedyn yn cael ei ddanfon i’w cartrefi yn y cerbyd trydan, wedi ei lapio fel anrheg, gyda’r gobaith o godi gwen!

Mae ‘Llyfr y Mis – Tachwedd’, bellach yn fyw ar Cadwyn Ogwen, a bydd yn cael ei ddanfon ar y 5ed Dachwedd. Bydd gweddill y mis wedyn i ddarllen y llyfr cyn ymgynnull dros zoom ar y 30 o Dachwedd i’w drafod. Dyma ddolen i’r llyfr ar Cadwyn Ogwen: https://www.ogwen.cymru/cy/cadwyn-ogwen/siop-ogwen/clwb-darllen-dyffryn-ogwen/llyfr-y-mis/?fbclid=IwAR1yKT2ZpsRiYxewUkrtoI61ovKiMEahcWu0yePZTgGHoZRbYgbXLUY0Cfk

I’r rhai sydd ddim yn hoffi syrpreis, bydd enw’r llyfr yn cael ei gyhoeddi ar ôl y danfoniadau, a bydd modd archebu’r llyfr drwy’r ffynonellau arferol (Cadwyn Ogwen, Siop Ogwen neu lyfrgell leol os ar agor).

Bydd ‘Llyfr y Mis’ bob tro’n llyfr Cymraeg cyfoes, a bydd yn cael ei werthu am bris gostyngedig o 10% i ffwrdd o’r pris clawr.

Dyma fideo sydyn yn egluro mwy am y syniad tu ôl i ‘Lyfr y Mis’. Os am fwy o wybodaeth, ymunwch a grŵp facebook Clwb Darllen Dyffryn Ogwen neu yrru neges i Siop Ogwen.