Nid pob diwrnod mae cyn-ddrymiwr grŵp rhyngwladol arloesol y ‘Flaming Lips’ yn eich holi am grys-t Cofiwch Dryweryn.
Ond dyna un o’r cwsmeriaid diweddaraf i Robyn Meredydd ei gael pan oedd hi’n gwirfoddoli yn Siop Ogwen adeg gŵyl ddiweddar Ara Deg.
“Ges i dipyn o sioc pan ddaeth Kliph Scurlock i mewn adeg yr ŵyl, ond roeddwn i’n digwydd gwybod ei fod o’n drymio efo Gruff Rhys yn y cyngerdd yn Neuadd Ogwen fel rhan ŵyl Ara Deg,” meddai Robyn.
“Fel arfer mae’r cwsmeriaid yn dueddol o fod yn fwy lleol, ond ‘da chi byth yn gwybod pwy ddaw drwy ddrws y siop. Dwi’n mwynhau gweld pobl a sgwrsio ac mae’n braf teimlo eich bod yn gwneud cyfraniad bach wrth helpu yn y siop.
“Does dim llawer ers i mi ddechrau helpu, ond dwi mor falch mod i wedi rhoi fy enw ymlaen i wirfoddoli.”
Mae Robyn yn un o griw gweddol fychan o bobl y dyffryn sy’n gwirfoddoli yn y siop gymunedol. Mae Siop Ogwen yn gyrchfan boblogaidd ar y stryd fawr ym Methesda gan werthu llyfrau, cylchgronau, cryno-ddisgiau ac amrywiaeth o gynnyrch Cymreig, ond mae’r llwyddiant yn dibynnu ar wirfoddolwyr i ofalu am y siop.
Meddai Mel Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen: “Rydan ni mor ddiolchgar i bawb sy’n gwirfoddoli yn Siop Ogwen, mae ymroddiad y criw bychan o wirfoddolwyr yn allweddol i sicrhau fod y siop yn llwyddo.
“Ond, rydan ni wastad yn awyddus i glywed gan unrhyw un o’r ardal fyddai’n awyddus gwirfoddoli. Rydan ni wedi gweld gostyngiad bychan yn nifer y gwirfoddolwyr yn ddiweddar ac felly mi fydden ni’n falch iawn o glywed gan unrhyw berson sy’n teimlo y gallen nhw helpu.
“Mae’n gallu bod yn amrywiol, yn brofiad gwaith i rywun sy’n chwilio am swydd lawn-amser neu yn gyfle i rywun gymdeithasu a chyfarfod pobl.
“Mi fydden ni’n hapus iawn i gael sgwrs i drafod efo unrhyw un fyddai â diddordeb a gweld sut y gall trigolion lleol Dyffryn Ogwen ein helpu i gadw Siop Ogwen yn atyniad poblogaidd.”
Os oes gennych ddiddordeb gwirfoddoli yn Siop Ogwen, cysylltwch efo’r siop drwy ebostio siop@ogwen.org neu ffonio 01248 602131.