Wythnos ar ôl cynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol Sioe Dyffryn Ogwen, dyma holi’r Cadeirydd, Alwyn Lloyd Ellis, am ei brofiadau.
Rhowch ychydig o gefndir i’r sioe
Dechreuodd y sioe n’ôl yn 1972, ac mi ydw i wedi bod yn gadeirydd arni ers 2008. Yn y sioe, cewch gystadlaethau defaid, ceffylau, dofednod, y cartref – heb sôn am y stondinau a’r adloniant.
Yn yr amser yma, mae’r sioe wedi gorfod cael ei chanslo 4 gwaith. 1 waith oherwydd clefyd y traed a’r genau, a 3 gwaith o achos y tywydd.
Beth wnaeth i chi gymryd rhan yn y sioe?
Dwi ’rioed wedi cystadlu yn y sioe! Yn wreiddiol, mi roedd y wraig ar y pwyllgor, a finnau’n arfer helpu ar y giât. Yna, gofynnwyd a hoffwn fod ar y pwyllgor! Da ni’n griw da, ac mae llawer o hwyl i’w gael, felly mae’n bleser cael bod yn rhan o’r bwrlwm.
Cawsoch eich cyfarfod blynyddol wythnos diwethaf – sut aeth hi?
Do, cawsom ein cyfarfod agored blynyddol – yr AGM – wythnos diwethaf. Trafodom sut yr oedd hi wedi mynd flwyddyn yma yn gyntaf. Doedd hon ddim yn llawer o sgwrs gan i ni orfod canslo’r sioe oherwydd y tywydd garw! Yna, ‘roedd rhaid ethol swyddogion am y flwyddyn i ddod, yn ogystal â phenderfynu ar ddyddiad y sioe flwyddyn nesaf – Dydd Sadwrn, Mehefin 13
Mae ‘na 10 ar y pwyllgor, ac rydym yn cyfarfod yn fisol er mwyn trefnu’r sioe. Cafodd pob swyddog ei ail-ethol i’w rôl. Mae hyn yn braf, ac yn fantais i ni, gan fod yr holl swyddogion wedi hen arfer erbyn hyn, ac yn gwybod yn union beth sydd angen ei wneud yn flynyddol.
Yw’r tywydd yn broblem yn aml?
Mae’r tywydd yn broblem i ni yn Sioe Dyffryn Ogwen. Gan ein bod ni’n defnyddio’r caeau rygbi i gynnal y sioe, mae’n rhaid i ni barchu’r tir a pheidio gadael gormodedd o fwd. Mae natur y cae yn reit isel, ac wedi ei leoli wrth Afon Ogwen sy’n golygu ei fod yn gallu bod reit wlyb.
Mi fysa’r holl gerbydau sy’n ymweld â’r sioe wedi gadael llanast o ganlyniad yr amodau yma. Hefyd, fysai dangos y stoc yn y tywydd ‘ma ddim yn deg – maen nhw’n haeddu cael eu gweld ar eu gorau.
Heblaw am y tywydd, beth yw’r heriau mwyaf wrth gynnal y sioe?
Mae ‘na lot o ‘red tape’ wrth gynnal sioe erbyn heddiw. Lot o reolau sydd yn creu her i ni sydd yn trefnu. Mae iechyd a diogelwch yn fater mawr erbyn heddiw, ac mae’n rhaid i ni wneud yn saff ein bod yn dilyn yr holl ganllawiau.
Da ni’n trio gwella’r sioe o flwyddyn i flwyddyn hefyd, ac mae hon yn her! Mae’r elw da ni’n ei wneud yn mynd ‘nol er mwyn sicrhau fod y sioe yn gwella ar gyfer y flwyddyn ganlynol.
Mae ‘na reolau newydd sydd yn ymwneud a symud stoc erbyn heddiw hefyd – gall hyn fod yn broblem, wrth i lawer o gystadleuwyr weld hi’n ormod o drafferth.
Un her ’da ni’n ei wynebu hefyd yw maint y cae! Does dim modd i ni ehangu heb fynd fewn i’r afon, felly da ni’n defnyddio pob modfedd sydd ar gael i ni.
Un peth arall yw cystadleuaeth gyda sioeau eraill. Mae ’na sioe arall yn cael ei chynnal ar yr un diwrnod a Sioe Dyffryn Ogwen, felly gall rhai cystadleuwyr ymweld â honno yn hytrach ’na ein sioe ni.
Mae’n rhaid cofio hefyd fod sioeau yn bethau costus i’w rhedeg!
Oes ganddo’ch enghraifft o sut ’da chi’n dod dros heriau, allech chi eu rhannu gyda phobl sy’n trefnu digwyddiadau lleol tebyg i chi?
Gwneud y gora gyda beth sydd ganddo’ch! Mae’n bwysig gweithio fel tîm, ac i ymddiried yn eich gilydd.
Hefyd, mae’n bwysig ymateb i unrhyw gwynion mewn ffordd bositif. Mae’n rhaid gwrando ar y gwyn, a thrafod er mwyn penderfynu sut ’da ni am sortio hyn, a gwella erbyn blwyddyn nesaf.
Ydych chi’n llwyddo i gael pobol newydd i gymryd rhan yn y sioe, a sut ydych chi’n gwneud hynny?
Da ni’n reit lwcus, gan fod ’na dîm da sydd yn fodlon helpu pob blwyddyn. Mae pawb sydd yn helpu’n mwynhau, yn cymdeithasu, ac yn cael llawer o hwyl.
I drio cael mwy o gystadleuwyr, yn aml, da ni’n ymchwilio i weld pa gystadleuaeth sydd yn boblogaidd mewn sioeau eraill, ac yna’n cyflwyno’r gystadleuaeth i Sioe Dyffryn Ogwen.
Da ni’n hysbysebu’r sioe yn flynyddol ar hyd yr ardal, ond mae’n rhaid dweud fod y gymuned leol yn ein cefnogi ni 100% – fel rhyw fath o draddodiad.
Da ni’n sicrhau fod pris ymweld â’r sioe yn aros yn reit isel hefyd, sydd yn denu mwy o bobol. Os mae’r bobol yn dod, ac yn gwario, does ’na’m problem i gael y stondinwyr yn nol yn flynyddol wedyn chwaith. Da ni’n cael sawl cais gan faniau bwyd newydd yn aml, ond mae’n bwysig cadw eu niferoedd i lawr, er mwyn sicrhau fod y faniau sydd yn y sioe, ac wedi ein cefnogi yn flynyddol, yn cael gwerthiant da.
Yw hi’n anodd cynnwys pawb – mewnfudwyr a theuluoedd lleol?
Na, mae’r sioe yn agored i bawb ac yn denu pob math o bobol. Mae ‘na deimlad cymunedol yn y sioe. Mae’r sioe yn draddodiad yn y pentref, a daw teuluoedd â phlant i lawr i fwynhau pob blwyddyn. Da ni wedi sicrhau ei fod yn amgylchedd saff i blant cael mwynhau yn yr awyr iach, ac yn croesawu unrhyw un i gael blas ar sioe leol.
Beth sy’n gwneud Sioe Ogwen yn wahanol i sioeau eraill?
Dwi’n teimlo ein bod ni’n sicrhau sioe drefnus pob blwyddyn, ac mae diolch am hynny i’r pwyllgor sydd yn gweithio’n galed i sicrhau fod popeth wedi cael ei sortio’n iawn. Da ni’n sioe reit rhad hefyd – un o’r rhataf ar y ‘circuit’!
Beth sy’n debyg rhwng Sioe Ogwen a sioeau bach eraill?
Mae sioe leol yn creu teimlad o gymuned yn cydweithio. Mae’n hynod o bwysig felly cael gwirfoddolwyr i helpu ar y diwrnod. Doe na’m modd trefnu dim byd heb y gwirfoddolwyr!
Oes rhywbeth da chi’n arbennig o falch ohono am Sioe Ogwen?
Fod pawb yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymdeithas. Da ni’n falch o allu cynnal diwrnod i’r gymuned, a bod pobl yn gwerthfawrogi’r gwaith da ni’n ei wneud. Mae’n grêt gweld heidiau o bobl yn cerdded lawr am y caeau rygbi ar ddiwrnod y sioe!
A… pryd da chi’n dechrau trefnu sioe y flwyddyn nesa?!
‘Never ending circle’! Fel mae un sioe yn gorffen, mae’n rhaid meddwl am y sioe nesaf!