Mwrdwr ar y Maes – Sioe glwb Bara Caws

Taith yn ymweld Neuadd Ogwen, Bethesda am 2 noson a Neuadd y Dref, Llanfairfechan

Carwyn
gan Carwyn

Caewch y drysau yn y cefn a phob chwara’ teg! Mae Sioe Glwb diweddaraf Bara Caws ar fin cychwyn…MWRDWR AR Y MAES

Ar yr wyneb mae Eisteddfod Aberbronfraith wedi bod yn led lwyddiannus, a lot o focsys wedi eu ticio. Y Goron, y Fedal Ryddiaith a Gwobr Daniel Owen wedi’u hennill, a’r gobaith rŵan ydi y bydd Bardd Traws, naci dim Hedd Wyn, yn ennill y Gadair. Tic, tic, tic.

A thic enfawr i’r Eisteddfod am fod mor gynhwysfawr, arwydd clir eu bônt yn symud gyda’r oes. Nid Eisteddfod i’r dosbarth canol fydd hi mwyach, ond ’steddfod i bawb, y digartref, y di-waith a’r didalent… Ond bu mwrdwr, ac os bu mwrdwr, ma’ rhaid bod mwrdwrwrwrwr…ar y maes, ond pwy?

Felly, dewch yn llu (os meiddiwch chi!) i helpu Hank a Shandy (o Rhyl) a nifer o gymeriadau lliwgar eraill i ddatrys y dirgelwch.

Mae Mwrdwr ar y Maes gan Iwan Charles a Llyr Evans i’w gweld yn Neuadd Ogwen ar nos Lun, 22/07/24 a nos Fawrth, 23/07/24, ac yn Neuadd y Dref, Llanfairfechan ar nos Fercher, 24/07/24. Mae’r sioe yn cychwyn am 7.30pm.

Mae’n addo bod yn noson werth chweil, ac yn addas i’r rhai 18 oed ac i fyny!

Cast: Iwan Charles, Anni Dafydd, Siôn Emyr, Llyr Evans a Leah Gaffey

Cerddorion: Osian Gwynedd, Carwyn Williams

Coreograffi: Elan Elidir

Am ragor o fanylion ac i fachu’ch tocynnau, ewch draw i wefan Theatr Bara Caws.