Ogwen360

Dirwyo am daflu sbwriel

Yn dilyn erthygl ddiweddar gan Derfel Roberts am dipio anghyfreithlon yn yr ardal, gellir adrodd fod dirwy wedi ei roi i ddau berson am waredu sbwriel.

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau fod dau unigolyn wedi derbyn dirwy o £400 yr un am dipio anghyfreithlon mewn chwarel ger Llanllechid ac yng nghyffiniau Tregarth. Roedd hyn mewn dau achos ar wahan.

Gan obeithio y bydd hyn yn rybudd i’r lleiafrif o bobl sy’n lluchio eu gwastraff mewn llecynnau o’n hardal.

Does dim esgus dros y fath ymddygiad – mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ac ni ellir byth ei gyfiawnhau. Mae canolfan ailgylchu ar Stad Ddiwydiannol Llandygai ar agor ers wythnosau bellach a threfn hwylus yn ei le i drefnu amser o flaen llaw i fynd ag eitemau draw yno.

Ond os dewch ar draws unrhyw dipio, mae modd adrodd amdano ar wefan Cyngor Gwynedd yma https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/ufs/FFURFLEN_SIEBEL.eb?DIOLCH_GWYNEDD_PEN__MAINT_TESTUN=100&MATH_YMHOLIAD=TIPIO&FFURFLEN_GWYNEDD_PEN__MAINT_TESTUN=100&DEWIS_CYFEIRIAD_GWYNEDD_PEN__MAINT_TESTUN=100&FFURFLEN_GWYNEDD_UWCHLWYTHO__ENW_FFOLDER=F90FC84C1A9C3C30B9888491508C3863&ebd=0&ebp=10&ebz=1_1593611692041 neu gellir cysylltu gyda Thîm Gorfodaeth Stryd y Cyngor ar e-bost gorfodaethstryd@gwynedd.llyw.cymru / ffôn 01766 771000.

 

Wythnos #EinBro yn dangos bwrlwm Dyffryn Ogwen

gan Guto Jones

Edrych nôl ar wythnos lansiad digidol Ogwen360.

Darllen rhagor

Rhaid Gwarchod Enwau Lleoedd

gan Ieuan Wyn

Sut mae gwarchod enwau lleoedd lleol?

Darllen rhagor

Ysgolion Gwynedd ddim am agor am wythnos ychwanegol

gan Ohebydd Golwg360

Byddai ymestyn y tymor hyd at Orffennaf 24 yn mynd yn groes i gytundebau athrawon

Darllen rhagor

Dyna Ni!

Dyna ni am heddiw ar Ogwen360 – gobeithio eich bod wedi mwynhau!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu, a bydd yr holl fideos ar gael i’w gwylio n’ôl ar ein tudalen facebook.

Os ti awydd cyfrannu ar Ogwen360 – ymuna! – https://ogwen.360.cymru/fi/ymuno/

Linc i wylio Dafydd Hedd!

Posted by DyffrynOgwen360 on Friday, 19 June 2020

Dafydd Hedd yn fyw ar Ogwen360!

https://www.facebook.com/watch/live/?v=257416178687386&notif_id=1592575940070508&notif_t=live_video