Ogwen360

  1

Neges bwerus am barchu ein gwlad annwyl

Neges i ni i gyd yn ymbil arnom i gymryd gofal o'r ardal brydferth yma

Darllen rhagor

10 stori fwyaf poblogaidd y gwefannau bro (Ion-Meh 2020)

gan Lowri Jones

Yn ôl yr ystadegau, mae pobol yn cael blas ar straeon gwreiddiol amrywiol yn Arfon a Cheredigion

Darllen rhagor

Dirwyo am daflu sbwriel

Yn dilyn erthygl ddiweddar gan Derfel Roberts am dipio anghyfreithlon yn yr ardal, gellir adrodd fod dirwy wedi ei roi i ddau berson am waredu sbwriel.

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau fod dau unigolyn wedi derbyn dirwy o £400 yr un am dipio anghyfreithlon mewn chwarel ger Llanllechid ac yng nghyffiniau Tregarth. Roedd hyn mewn dau achos ar wahan.

Gan obeithio y bydd hyn yn rybudd i’r lleiafrif o bobl sy’n lluchio eu gwastraff mewn llecynnau o’n hardal.

Does dim esgus dros y fath ymddygiad – mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ac ni ellir byth ei gyfiawnhau. Mae canolfan ailgylchu ar Stad Ddiwydiannol Llandygai ar agor ers wythnosau bellach a threfn hwylus yn ei le i drefnu amser o flaen llaw i fynd ag eitemau draw yno.

Ond os dewch ar draws unrhyw dipio, mae modd adrodd amdano ar wefan Cyngor Gwynedd yma https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/ufs/FFURFLEN_SIEBEL.eb?DIOLCH_GWYNEDD_PEN__MAINT_TESTUN=100&MATH_YMHOLIAD=TIPIO&FFURFLEN_GWYNEDD_PEN__MAINT_TESTUN=100&DEWIS_CYFEIRIAD_GWYNEDD_PEN__MAINT_TESTUN=100&FFURFLEN_GWYNEDD_UWCHLWYTHO__ENW_FFOLDER=F90FC84C1A9C3C30B9888491508C3863&ebd=0&ebp=10&ebz=1_1593611692041 neu gellir cysylltu gyda Thîm Gorfodaeth Stryd y Cyngor ar e-bost gorfodaethstryd@gwynedd.llyw.cymru / ffôn 01766 771000.