Dowch i eistedd rownd y tân am sgwrs a glasiad o Glühwein yn Gerlan ar y “patio mawr” wrth y llyfrgell planhigion. Dowch â log a chwpan ac mi sortiwn ni’r diodydd.
Ail Sadwrn y mis – Marchnad Ogwen! Nifer amrywiol o Stondinau yn gwerthu bwydydd a chrefftau lleol. Mynediad yn rhad ac am ddim i sicrhau eich siopa Dolig heb orfod symud o Fethesda!
Marchnad Ogwen. Byddwn yn cynnal ein Marchnad nos unwaith eto nos Fercher nesaf. Cyfle i wneud siopa ‘Dolig heb orfod symud cam o Fethesda. Dewch i gefnogi eich cymuned.
Mae Byw’n Iach Plas Ffrancon, Bethesda yn falch o gyhoeddi ein bod wedi rhyddhau sesiynau Blynyddoedd Cynnar yn rhad ac am ddim, bydd ar gael o Fis Ionawr tan ddiwedd Mis Mawrth!