Ydach chi wedi defnyddio’r Gofod Gwneud draw yng Nghanolfan Cefnfaes?
Mae Partneriaeth Ogwen bellach yn gallu cynnig ystod o weithdai yn ogystal â chymorth technegol i’r rhai sy’n dymuno dysgu defnyddio’r offer Gofod Gwneud.
Mewn partneriaeth â Menter Môn a lleoliadau FFIWS eraill ar draws Gwynedd ac Ynys Môn gydag arian o Gronfa Economi Gylchol Cyngor Gwynedd.
Mae ein cyfres newydd o weithdai yn dechrau mis Medi efo:
- Gweithdy dan arweiniad Jo Hinchliffe yn dysgu hanfodion sodro ar gyfer atgyweirio trydanol ar ddydd Iau 5ed Medi 18:30 – 20:30
- Ar brynhawn dydd Mercher 11eg Medi o 14:00 – 17:00, bydd Erika Spencer yn cynnal gweithdy uwchgylchu crysau-t yn fagiau tote.
- Bydd Jo Hinchliffe yn ôl ar nos Iau 15fed Medi o 18:30 – 20:30 gyda gweithdy creu ffurfydd pren wedi’i dorri a laser i doddi a siapio plastig dros fowld gan ddefnyddio sugnwr llwch.
- Ac ar y diwedd bydd Angharad Gwyn yn rhedeg gweithdy gwnïo ar 25 Medi o 14:00 – 16:00 i ail-bwrpasu deunyddiau i greu eitemau newydd fel bandiau gwallt, bagiau, scrunchies ac ati.
Rydym yn falch o allu cynnig y gweithdai cychwynnol hyn am ddim fel rhan o’n hail-lansio. Plîs cysylltu efo gofod@ogwen.org am fwy o wybodaeth am y sesiynau neu i’ch lle.
Yn ogystal â gweithdai wedi’u trefnu, rydym bellach mewn sefyllfa i gynnig amser yn y Gofod Gwneud gyda thechnegydd i’ch cefnogi i ddefnyddio’r peiriannau, neu i roi cyflwyniad cyffredinol i chi i’r peiriannau.
Mae’r sesiynau hyn hefyd ar gael yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd, ond codir tâl am unrhyw ddeunyddiau a ddefnyddir. Cysylltwch â gofod@ogwen.org i drafod eich anghenion a threfnu apwyntiad.
Rydym hefyd yn gyffrous iawn i fod yn gweithio ochr yn ochr â’r artist lleol Rebecca F Hardy, a fydd fel rhan o’i gwaith “Dy Werth” yn cynnal noson o sgwrs nos Fawrth 24 Medi o 18:30 – 20:30 am ei brofiad o ddefnyddio gofodau gwneud ar draws Gwynedd i greu gwaith celf a nwyddau. Fel rhan o noson bydd Rebecca hefyd yn rhedeg gweithdy creadigol yn creu gemwaith wedi’i ailgylchu yn y Gofod Gwneud. Plîs cysylltu efo gofod@ogwen.org am fwy o wybodaeth neu i archebu eich lle.
Bydd mwy o weithdai’n cael eu hychwanegu’n fisol, felly cadwch lygad ar dudalen Facebook Partneriaeth Ogwen i weld beth sy’n dod nesaf!