I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched, mae Partneriaeth Ogwen yn tynnu sylw at y merched gweithgar yn ein tîm drwy ofyn iddynt rannu eu profiadau.
O ddarllen trwyddynt, mae’n hyfryd gweld yr angerdd sydd gan bawb dros waith cymunedol, yn ogystal â dangos sut fel cyflogwr, mae Partneriaeth Ogwen yn hybu lles staff a blaenoriaethu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Dyma beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud:
Ar ôl gadael Ysgol nid oeddwn yn sicr pa lwybr i ddilyn o ran gyrfa, o ganlyniad mi oeddwn yn gweithio mewn bwytai am rhai blynyddoedd. Roedd hyn yn effeithio fy Iechyd Meddwl yn sylweddol, nid oeddwn yn teimlo fy mod i’n cyfrannu at unrhyw beth. Dechreuais i gyda Phartneriaeth Ogwen yn 2021 ac rwy’n hynod o ddiolchgar am y cyfleoedd dwi wedi derbyn. Ers ymuno a’r tîm mae fy hyder wedi codi, mae fy Nghymraeg a’n iechyd meddwl wedi gwella’n aruthrol. Rwyf wrth fy modd gweithio yn y gymuned cefais fy magu, a gweithio gyda’n nghyd weithwyr cefnogol ac ysbrydoledig. Rwyf nawr yn gweithio fel Swyddog Pobl Ifanc ac yn gobeithio cwblhau cyrsiau drwy Agored Cymru i ddatblygu fy nghymwysterau. – Anna
Dwi’n ffeindio hi’n od gweithio efo gymaint o freched ar ôl gwario tua 2 flynedd yn gweithio yn y byd moduro sydd yn amlwg yn wrywaidd yn bennaf. Ar ôl dechrau yma ym Mhartneriaeth Ogwen ym mis Tachwedd, mae’n amlwg fod y tîm yn fwy na jyst cydweithwyr, ond yn ffrindiau agos hefyd. Cefais fy nghroesawu gyda breichiau agored gan y genod ac rwyf yn teimlo’n gyfforddus ac yn gartrefol yn y swyddfa. Mae’r genod yn fy hybu i ddilyn fy ngyrfa mewn marchnata a dwi’n gwerthfawrogi hyn gymaint. – Abbie
Dechreuais weithio i’r Bartneriaeth yn ôl yn 2017, yn gweithio un diwrnod wythnos. Wrth i’r sefydliad dyfu, mae fy rôl i wedi newid ac rwyf bellach yn darparu gwasanaeth clercio i ddau Gyngor Cymuned leol, sef Bethesda a Llandygai. Rwyf yn enedigol o Ddyffryn Ogwen ac yn byw gyda fy nheulu yn Nhregarth. Dwi yn falch iawn o gael gweithio i Bartneriaeth Ogwen, ac wrth fy modd yn cael gwneud gwahaniaeth i fy nghymunedau lleol. Mae’n hynod o braf gael gweithio i sefydliad hyblyg sydd yn deall gofynion teuluol a’r pwysigrwydd o gydbwysedd bywyd gwaith a bywyd cartref. – Beth
Cychwynnais gyda Partneriaeth Ogwen yn 2015, yn rhan o dîm bychan iawn o dair o ferched. Fy rôl gychwynnol oedd darparu gwasanaeth clercio i’r tri Chyngor Cymuned leol, sef Bethesda, Llandygai a Llanllechid. Wrth i’r sefydliad dyfu, mae fy rôl wedi newid llawer, ac rwyf bellach yn Ddirprwy Brif Weithredwr. Fy mhrif ddyletswyddau yw rheoli cyllid a gweinyddiaeth y fenter, yn ogystal â rheoli staff, a chefnogi’r nifer o wahanol brosiectau sydd gan y Bartneriaeth. Rwyf yn falch iawn o gael gweithio i Bartneriaeth Ogwen, rwyf yn enedigol o Fethesda ac yn dal i fyw yma gyda fy nheulu. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn cael gweithio ar fy stepan drws, a chael yr hyblygrwydd i weithio a magu teulu’r un pryd. Rwy’n falch o gael gweithio gyda thîm anhygoel o ferched eraill sy’n fy ysbrydoli ac yn falch o’u galw yn ffrindiau bellach. – Donna
Dwi wrth fy modd yn gweithio i Bartneriaeth Ogwen. Mae’n le braf iawn i weithio a mae’r holl dîm yn anhygoel. Rwyf yn dioddef gyda phroblemau iechyd ac yn gwerthfawrogi’r cymorth sydd ar gael gan fy nghydweithwyr, pawb o hyd yn hapus i helpu mewn unrhyw ffordd ac yn hyblyg gydag apwyntiadau meddygol. Mae’n bleser dod i waith bob dydd gan wybod fy mod yn helpu’r gymuned y cefais fy magu ynddi, a gobeithio cael gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. – Marie
Cyn dod yn weithiwr cyflogedig, mi wnes i wirfoddoli efo nifer o brosiectau Partneriaeth Ogwen oherwydd fy mod yn gwerthfawrogi’n fawr y gwaith sy’n cael ei wneud er lles ein cymuned. Mae’n lle gwirioneddol ysbrydoledig a chefnogol i weithio ynddo. Hefyd, mae gallu gweithio’n agos at adref ac yn hyblyg wedi’i gwneud hi’n llawer haws cael cydbwysedd gwaith/bywyd cadarnhaol, sy’n golygu y gallaf fod yno i fy mhlant ar ôl ysgol ac ar yr un pryd i beidio â cholli allan ar gyfleoedd i helpu fy ngyrfa. – Robyn
Cyn dod i weithio i Bartneriaeth Ogwen roeddwn yn dioddef gyda fy Iechyd Meddwl, ers dod yn rhan o’r tîm yma rwy’n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi, ac mae fy iechyd meddwl wedi gwella’n aruthrol. Mae gweithio gyda thîm mor wych yn beth anhygoel i fod yn rhan ohono, ac mae gweithio gyda merched anhygoel sy’n ffynnu yn eu gyrfaoedd ac yn rheoli cydbwysedd gwaith/cartref yn ysbrydoliaeth. Mae Partneriaeth Ogwen bob amser yn weithle teg a hyblyg, rwyf bob amser yn teimlo fy mod yn derbyn gofal anhygoel yma gydag aelodau’r tîm yn fy nghefnogi’n gyson yn fy mhenderfyniadau a’m dyheadau gyrfa ac yn bwysicach eto yn fy mywyd personol. Rwyf ar hyn o bryd yn astudio i orffen arholiadau ACCA, a heb gefnogaeth fy rheolwr llinell, y prif weithredwr a fy nghydweithwyr bob dydd byddai hyn wedi bod yn amhosibl cydbwyso bywyd gwaith a chartref.
Nid oes gennyf ddim ond diolch i’w fynegi i’r holl sefydliad am y tair blynedd diweddaf yn gweithio yma. – Lliwen
Mae’n bron i flwyddyn ers i mi ddechrau ar fy swydd fel ‘Gyfaill y Gymuned’ gyda Partneriaeth Ogwen. Newid byd i mi ar ôl gweithio ym myd y theatr am 48 mlynedd. Fe dderbyniais groeso cynnes o’r cychwyn yn y gweithle a dod yn rhan o’r ‘teulu mawr’. ‘Roedd yn agoriad llygaid i mi weld gymaint o wasanaethau yr oedd Partneriaeth Ogwen yn ei gynnig i gymunedau yn ardal Bethesda. ‘Da ni’n ffodus dros ben o fod yn rhan o fenter cymdeithasol mor arbennig yma yn Nyffryn Ogwen.
‘Rwyf yn falch o fedru dweud ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched fy mod i’n teimlo’n ferch ffodus iawn o gael y cyfle o fod mewn gwaith sydd yn rhoi gymaint o hunanfoddhad i mi (fel Cyfaill y Gymuned), a chael cyd-weithio gyda chriw o ferched cryf, dawnus, caredig, ymroddgar sydd yn gweithio i’r Bartneriaeth. Mae pawb yn cyd-weithio’n hapus ac yn cefnogi ei gilydd bob amser. Mae heddiw’n ddiwrnod i’w glodfori – DATHLWN GYDA’N GILYDD – MEWN UNDOD MAE NERTH. – Linda
Mae gweithio i Bartneriaeth Ogwen wedi newid fy mywyd. Mae o’n waith lle dwi’n gweithio bob dydd efo bobl ysbrydoledig – yn ferched a dynion – sy’n angerddol am yr ardal mae nhw’n gweithio ynddo. Ers dechrau yma 10 mlynedd yn ôl, mae creu diwylliant gofalgar, caredig a hyblyg wedi bod yn bwysig i fi. Dwi’n fam i dri o blant a dwi’n gwybod be ydy trio jyglo gyrfa a magu. Mae gallu cefnogi’r mamau eraill ar y tîm i gael y cydbwysedd yna rhwng bywyd proffesiynol ac adra yn hollbwysig i mi. Dwi hefyd yn angerddol am godi hyder merched a chreu arweinwyr cymunedol. Mae merched wastad wedi bod wrth wraidd pob menter gymunedol – yn codi arian, yn cymryd cofnodion neu drefnu digwyddiadau ond dwi’n gobeithio fod Partneriaeth Ogwen hefyd yn rhoi cyfle i ferched arwain, ffynnu a disgleirio.
Mae darllan postiadau rhai o’m cydweithwyr benywaidd heddiw wedi gneud i fi deimlo mor falch ond emosiynol hefyd. Mae gwaith yn rhan mor fawr o fywyd pobol felly mae darllan eu postiadau hyderus nhw yn gwneud i mi deimlo’n andros o hapus. Diolch genod am bob dim da chi’n neud i fy nghefnogi i yma’n Partneriaeth Ogwen. Ryda chi wir yn ysbrydoliaeth – Mel