Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Nôl yn 1974, daeth criw bach ynghyd a rhoi cynnig ar gael tîm rygbi ym Methesda.
Bryd hynny, prin oedd y timau yn y gogledd ond trwy ddyfalbarhad ac ymdrech nifer o wirfoddolwyr, mae Clwb Rygbi Bethesda wedi mynd o nerth i nerth.
Bydd yna ddiwrnod arbennig o ddathlu 50 mlwyddiant y clwb heddiw. Ewch draw i fwynhau’r chwarae – gêm y tîm cyntaf yn erbyn Rygbi Gogledd Cymru a’r criw ieuengaf yn chwarae gêm tag am hanner amser.
Mae’n cynnig cyfle i gyn chwaraewyr a chefnogwyr ddod yn i hel atgofion, gyda gig gan y band poblogaidd lleol Hogia’r Bonc heno.
Mae’n addo bod yn ddiwrnod i’w gofio!