Ysgolion ar gau eto oherwydd yr eira

Sawl ysgol ar gau heddiw (19 Ionawr)

Carwyn
gan Carwyn

Gyda’r tywydd rhewllyd yn parhau, mae Ysgolion Abercaseg a Phenybryn ym Methesda ar gau am ail ddiwrnod. Mae Ysgol Dyffryn Ogwen ac Ysgol Llanllechid hefyd ar gau trwy’r dydd.

Yn dilyn asesu’r sefyllfa ar y 2 safle, gan gynnwys y llwybrau i’r ysgolion, mae neges wedi ei anfon at rieni Abercaseg a Phenybryn y bore yma i gadarnhau eu bod ar gau.

“Yn dilyn Asesiad Risg a’r amodau peryglus a’r rhagolygon tywydd am y diwrnod mae Ysgol Abercaseg a Phenybryn ar gau heddiw. Diolch am eich cydweithrediad,” meddai.

Felly, diwrnod arall i fwynhau’r eira. Cymrwch bwyll os ydych chi allan, mae hi’n parhau yn llithrig mewn sawl ardal.

Bydd manylion unrhyw ysgol sydd ar gau yn cael eu diweddaru ar wefan y Cyngor yma.