Ysgolion ym Methesda ar gau yn dilyn eira

Abercaseg a Phenybryn ar gau heddiw (18/1/23)

Carwyn
gan Carwyn

Gydag eira dros nos ac amodau digon anodd ar y ffyrdd, mae angen cymryd gofal heddiw os ydych chi allan yn yr ardal.

Mae’r awdurdodau yn cynghori modurwyr i gymryd pwyll ar y ffyrdd ac i yrru i’r amodau.

Mewn neges i rieni mae Ysgolion Abercaseg a Phenybryn wedi dweud eu bod ar gau heddiw “oherwydd amodau peryglus”. Mae’n dilyn asesiad risg.

Felly, mwynhewch yr eira – yn ddiogel bawb!