Tocynnau Gŵyl Ara Deg ar werth

Pumed ŵyl yn cael ei chynnal ym Methesda o 24 tan 26 Awst

Carwyn
gan Carwyn
ARA_DEG_2023-01-gyda-enwau

Mae Pwyllgor Gŵyl Ara Deg wedi cyhoeddi’r artistiaid fydd yn perfformio eleni.

Dyma’r pumed tro i’r ŵyl gael ei chynnal a bydd Bethesda yn croesawu artistiaid o fri, o bell ac agos eto eleni.

“Bydd popeth wedi ei ganoli yn Neuadd Ogwen a gweithgareddau ychwanegol eto yn y Fic – a chydig o gyhoeddiadau a gweithgareddau pellach i ddod” meddai’r pwyllgor mewn neges heddiw.

Mae’r tocynnau ar gyfer y cyngherddau ar 24, 25 a 26 Awst bellach ar werth, ac mae tocyn penwythnos hefyd ar gael os nad ydych eisiau methu dim!

Bydd yr artistiaid yn cynnwys Deerhoof, Yann Tiersen, Gruff Rhys, Ian F Svenonius, Escape-ism, Rozi Plain, Cerys Hafana, Permanent Draft, Cathead a llawer mwy!

Am y manylion llawn ac i dalu am eich tocyn ewch draw i wefan yr ŵyl yma.