Timau rygbi ieuenctid yn chwilio am chwaraewyr

Allai rywun yn eich teulu ymuno gyda thimau plant blynyddoedd 4 i 7?

Carwyn
gan Carwyn
2E103949-186A-4D94-B6B2

Tîm dan 10 oed gyda Huw Davies

B645F998-A805-46BF-BEF6

Criw dan 11

203C86E7-A188-4971-80E5

Tîm dan 9 Bethesda

B92EECA1-07A8-431E-BABF

Tîm dan 12 Bethesda

Yn dilyn ei gap dan 20 cyntaf ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, daeth Huw Davies draw i gyfarfod rhai o chwaraewyr ifanc Clwb Rygbi Bethesda dros y penwythnos.

A chyda’r seren a ddechreuodd ei daith rygbi yn ymarfer a chwarae dros dimau ieuenctid Dol Ddafydd, pa amser gwell i chwaraewyr ifanc ymuno gydag un o dimau ieuenctid Clwb Rygbi Bethesda.

Mae nifer o dimau ieuenctid yn ymarfer a chwarae yn rheolaidd, mae rhai o’r timau yn barod i dderbyn chwaraewyr newydd.

Roedd y chwaraewyr ifanc wrth eu boddau yn cael cyfarfod a sgwrsio efo Huw Davies yn ddiweddar yn dilyn y gêm nos Wener diwethaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon.

Ar hyn o bryd, mae timau dan 9, dan 10, dan 11 a dan 12 yn chwilio am chwaraewyr newydd i ymuno â’u tîm. Felly mae cyfle i fechgyn a merched blynyddoedd 4 i 7 ar hyn o bryd.

Mae’r clwb yn dweud fod croeso i chwaraewyr newydd ac yn annog rhieni a phlant i ddod draw adeg hyfforddiant y timau i drefnu ymuno.

Mewn neges ar Facebook, mae’r clwb yn dweud fod croeso: “Os oes gennych fab neu ferch sy’n mwynhau chwarae rygbi, eisiau ymuno a thîm, gwneud ffrindiau newydd a chadw’n ffit.”

Mae timau dan 9, 10 ac 11 yn hyfforddi bob nos Iau o 6 tan 7pm a’r tîm dan 12 bob nos Wener ar yr un amser.

Pwy a wyr, bosib fod chwaraewr rhyngwladol nesaf Bethesda ymhlith y criw timau ieuenctid yma.