Mae Carrie Rimes o Gosyn Cymru wedi ennill Gwobr Caws Cymreig Gorau yng Ngwobrau Caws Artisan Melton Mowbray am y drydedd flwyddyn yn olynol.
“Mae’n hyfryd cefnogi’r digwyddiad blynyddol gwych hwn, gan fy mod yn edmygu’n fawr y trefnwyr sy’n gweithio mor galed i’w roi at ei gilydd,” meddai Carrie.
Brefu Bach
Mae Carrie yn ymgeisio mewn pedwar categori gwahanol bob blwyddyn efo ei chaws llaeth dafad Brefu Bach bob blwyddyn.
Er bod hi ddim wedi bod yn llwyddiannus o gipio gwobr yn y un o’r rhain, mae’r gystadleuaeth yn dyfarnu “Caws Cenedlaethol Gorau” i’r cawsiau efo sgôr uchaf yn gyffredinol o bob cenedl.
“Tri thlws a thair rhoset”
“Yn anffodus, nid wyf erioed wedi gallu bod yn bresennol, felly nid oeddwn yn ymwybodol bod tlysau a rhosedi ar gyfer yr enillwyr,” esbonia Carrie.
“Yr wythnos diwethaf, agorais ddanfoniad yn disgwyl rhywbeth o Hafod Cheddar, ac er mawr syndod i mi roedd y bocs yn cynnwys tri thlws a thair rhoset!
“Ar ôl siarad â threfnydd y Gwobrau Caws Artisan, mae’n debyg, wrth dacluso’r cwpanau heb eu hawlio, iddo weld fy nhlysau o 2021 a 2022 a phenderfynu ei bod yn bryd eu hanfon ataf!”
Gellir prynu caws ac iogwrt sydd wedi ennill gwobrau i Carrie o’i siop yn Llaethdy Gwyn (hen Eglwys Gatholig Bethesda) ac yn ogystal â Chaffi Blas Lôn Las, Tregarth. Gallwch hefyd archebu ar-lein trwy Gadwyn Ogwen yn wythnosol i’w ddosbarthu o fewn Dyffryn Ogwen a’i gasglu y tu hwnt.