Oes yna rywun acw fyddai’n mwynhau chwarae criced?

Ymarferion yn cychwyn o ddiwedd Ebrill gyda Chlwb Criced Bethesda

Carwyn
gan Carwyn

Gyda’r tywydd i weld yn gwella, a’r nosweithiau yn ymestyn mae tymor criced wedi cyrraedd.

Mae yna dimau a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer plant ac oedolion. Does dim angen profiad blaenorol, ac mae croeso cynnes i chwaraewyr newydd.

Bydd ymarferion criced ieuenctid yn cael eu cynnal o ddiwedd Ebrill tan ganol Gorffennaf. Bydd y ’dynamos’ / dan 11oed yn ymgynnull bob nos Wener o 6pm tan 7pm o 28 Ebrill, a’r criwiau dan 13 a dan 15 oed yn ymarfer o 5.30pm tan 6.30pm bob nos Iau o 27 Ebrill. Mae rhaid cofrestru o flaen llaw.

Mae timau merched a dynion felly does dim esgus dros beidio rhoi cynnig arni os oes gennych ddiddordeb.

Am ragor o fanylion a gwybodaeth am sut i gofrestru neu gysylltu, ewch i dudalen Facebook Clwb Criced Bethesda.