Plannu coed yng ngardd Ffrancon

“Mae’n briodol fy mod yn gwneud hyn dair blynedd ers dechrau’r pandemig.”

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian
336921728_141840505231029

Mae coed newydd wedi eu plannu yng Ngardd Ffrancon ym Methesda fel rhan o ymgyrch ‘Gwledd y Gwanwyn’ yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Elusen gadwraeth sy’n gyfrifol am 46,000 hectar o dir, 157 milltir o arfordir a 18 o safleoedd hanesyddol yng Nghymru yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nod eu prosiect diweddaraf #GwleddYGwanwyn yw darparu cyfleoedd i fwy o bobl gysylltu â byd natur yng Nghymru.

Mae blagur ar y coed yn arwydd o ddyfodiad y gwanwyn, ac mae dathliad #GwleddYGwanwyn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi’i ysbrydoli gan Hanami, gŵyl flynyddol yn Siapan sy’n dathlu coed ceirios.

Mae’r dathliad bellach ar ei drydedd flwyddyn, ac fel rhan o #GwleddYGwanwyn 2023, mae Siân Gwenllian AS wedi ymuno â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i blannu coed yng Ngardd Ffrancon, gerddi cymunedol a rhandiroedd Bethesda.

Yn ôl Siân:

“Mae’n briodol iawn fy mod yn cymryd rhan mewn dathliad o fyd natur dair blynedd yn union ers dechrau’r pandemig.

“I gyd-fynd â’u hymgyrch, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi amlygu ystadegau sy’n awgrymu bod 68% o bobl yn credu bod sylwi ar fyd natur wedi codi eu calonnau yn ystod y cyfnodau clo.

“Hefyd, mae 47% o oedolion yn honni eu bod yn fwy tebygol o dreulio amser ym myd natur ers y pandemig.

“Mae #GwleddyGwanwyn yn rhan o ymgyrch Natur i Bawb yr elusen, sy’n annog pobl i ymgysylltu â’r awyr agored, ac fel garddwr fy hun rwy’n ymwybodol iawn o fanteision byd natur.

“O les personol ein cyrff a’n meddyliau, i bwysigrwydd creu cynefinoedd naturiol ar gyfer bywyd gwyllt a’r rôl y mae coed yn ei chwarae wrth gyrraedd sero carbon net.

“Rwy’n falch iawn bod llawer iawn o’r mentrau llawr gwlad rwy’n ymweld â nhw yn Arfon yn chwarae rhan hollbwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.”