Peint a Sgwrs Pesda

Dechrau da i’r flwyddyn newydd

gan Daniela Schlick

Nos Iau, 12fed Ionawr daeth criw o bobl Pesda at ei gilydd am noson Peint a Sgwrs Pesda. Tua 18 o ddysgwyr a Chymry Cymraeg ddaeth i dafarn y Tryfan Inn i gymdeithasu efo’i gilydd a siarad iaith y nefoedd dros beint (neu ddau) mewn awyrgylch hollol hamddenol.

Y noson gyntaf o’r fath oedd hi ac wedi i bawb fwynhau cymaint mae’n argoeli i fod yn noson reolaidd yng nghalendr cymdeithasol Pesda. Mor hyfryd gweld a chlywed pawb yn sgwrsio ac yn dod i nabod ei gilydd.

Mae diolch enfawr i bob dysgwr a fentrodd allan i’r sesiwn, i’r Cymry Cymraeg oedd mor frwdfrydig i helpu ac i Dewi o’r Tryfan Inn am y croeso cynnes!

Bydd Peint a Sgwrs Pesda nesaf nos Fercher, 8fed o Chwefror o 7yh ymlaen yn y Tryfan Inn. Dowch atom ni am beint a sgyrsiau difyr!