Catrin Wager yn cyflwyno ei henw fel darpar-ymgeisydd seneddol

Cynghorydd Cymuned Bethesda yn rhoi ei henw ymlaen fel ymgeisydd posib ar ran Plaid Cymru

320931973_544937007247676

Mae Catrin Wager wedi datgan ei bod yn cyflwyno ei henw fel darpar ymgeisydd San Steffan i Blaid Cymru yn Arfon.

Mae’n dilyn cyhoeddiad Hywel Williams AS na fydd yn sefyll etholiad arall. Felly petai etholiad yn cael ei galw tra bo’r etholaeth bresennol yn bodoli, byddai gofyn am ymgeiswyr fyddai’n barod i sefyll etholiad buan.

Cadw gobaith

Wrth amlinellu ei rhesymau dros roi ei henw ymlaen, mae Catrin Wager sy’n aelod o Gyngor Cymuned Bethesda, yn mynnu fod angen creu newid a chadw gobaith.

“Mae gobaith i’w ganfod yn ein cymunedau, yn ein pobl, yn ein Cymreictod, ac yn ein gallu i edrych y tu allan i’r erchyllterau San Steffan, ac adeiladu dyfodol gwahanol,” meddai.

“Dyfodol sydd yn wyrdd, yn deg ac yn gadael neb ar ôl. Dyma obaith am well byd.

“Dyma hefyd ydi’r gobaith sydd wedi fy annog i gymryd cam mawr ar drothwy 2023, a chyflwyno fy enw i chi fel darpar ymgeisydd Plaid Cymru Arfon i San Steffan, pe bai etholiad yn cael ei galw tra bod Arfon yn bodoli fel etholaeth.

“Dwi wedi brwydro am gymdeithas well ers blynyddoedd, ac rŵan, mae’r gobaith dwi’n ei ddal yn fy nghalon yn fy nghyflyru i fynd â’r frwydr honno i wraidd ein problemau i gyd – San Steffan.”

Wedi ei magu yn Nyffryn Nantlle, cynrychioli Bangor ar y Cyngor Sir a magu teulu yn Nyffrynnoedd Peris ac Ogwen, mae’n dweud fod yr etholaeth yn agos at ei chalon.

Yn dilyn cyfnod yn gynghorydd sir lle bu’n aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd, mae’n dweud iddi gymryd rôl fwy gweithredol yn ymateb i’r argyfyngau niferus mae pobl yn eu hwynebu ers camu lawr yn 2022 a bellach yn gweithio i gefnogi mudiadau a chymunedau ar draws gogledd a gorllewin
Cymru i sefydlu llyfrgelloedd Pethau.

Mynd a’r frwydr i San Steffan

“Dwi wedi bod yn ymgyrchydd drwy fy oes, ond daeth fy neffroad gwleidyddol nol yn 2015, pan gefais lond bol ar weld delweddau o blant a phobl yn boddi ar draethau Ewrop, tra bod y wasg yn eu pardduo,” ychwanegodd Catrin.

“Fel rhan o griw gwych o bobl, mi ges i’r cyfle i chwarae rôl flaenllaw yn ymgyrchu dros hawliau ffoaduriaid, a chydlynu casglu a danfon nwyddau angenrheidiol i Ffrainc, Ynysoedd Groeg, Syria a Libanus.

“Ond mi wnes i sylweddoli, er mor bwysig oedd y nwyddau yma, fod
gwir atebion y sefyllfa drychinebus hon angen dod o’r byd gwleidyddol.

“Yn ystod fy 5 mlynedd fel cynghorydd dwi’n credu imi adael fy marc. O gyflwyno cynigion llwyddiannus i ddarparu nwyddau mislif am ddim yn ysgolion y sir, i ddatganiad o argyfwng hinsawdd, mae fy ngweithrediadau gwleidyddol yn parhau i ddylanwadu ar waith y cyngor.

“Fel aelod cabinet, llywiais fy adrannau i fod yn fwy cymunedol a gwyrdd yn eu gweithrediadau; er enghraifft, enillais grant a arweiniodd at ddarparu offer i 11 prosiect rhannu bwyd cymunedol ar draws y sir, a chyflwynais ‘Dimau Tacluso Ardal Ni’ i wella edrychiad ein cymunedau.

“Roedd canfod datrysiadau i bryderon fy etholwyr yn flaenoriaeth i mi, tra’n aros yn driw i fy egwyddorion o degwch cymdeithasol a theyrngarwch.

“Mae’r tân am greu newid er gwell yn dal i losgi. Ond y tro yma, mae gen i’r profiad a’r ysgogiad i fynd a’r frwydr yr holl ffordd i wraidd y broblem – San Steffan ei hun.”

Mae disgwyl y bydd hystings yn cael eu cynnal yn lleol yn yr wythnosau nesaf ac os bydd yna ddarpar ymgeiswyr eraill yn lleol yn cyhoeddi eu bwriad i sefyll, bydd manylion yn cael eu cyhoeddi.

Os ydych chi’n bwriadu sefyll, croeso i chi rannu eich manylion gydag Ogwen360 i chi gael cyfle i rannu’ch gweledigaeth gyda phobl Dyffryn Ogwen. Cysylltwch trwy neges breifat ar Twitter, Facebook neu Instagram.