Parcio gwirion yn parhau

Er yr holl rybuddion, roedd ceir wedi parcio lle na ddylent ger Llyn Ogwen

Carwyn
gan Carwyn

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, fe nododd Heddlu Gogledd Cymru fod yr A5 ar gau dros-dro ger Llyn Ogwen brynhawn Gwener.

Roedd hyn gan fod ceir wedi parcio’n anghyfrifol – a hynny er gosod rhybuddion i annog gyrwyr i barcio’n gall.

Nododd yr heddlu fod y ffordd ar gau, a hynny “oherwydd cerbydau wedi eu parcio yn y ffordd” yn ardal Llyn Ogwen.”

Ychwanegwyd fod “dargyfeiriad mewn lle drwy Betws Y Coed.”

Roedd hyn yn dilyn neges yn gynharach gan Asiantaeth Cefnffyrdd y Gogledd yn dweud eu bod “wedi cael adroddiadau bod nifer o gerbydau wedi parcio ar ochr y ffordd ar yr A5 Bethesda i Betws-y-Coed.

“Mae wardeniaid parcio allan heddiw a bydd pob cerbyd sydd wedi parcio mewn mannau peryglus yn cael dirwy.”

Roedd yr awdurdodau yn symud y ceir oddi ar y rhwydwaith yn hwyr b’nawn Gwener.

Mae nifer o ymdrechion wedi eu cynnal i wella parcio a thrafnidiaeth yn yr ardal yn ddiweddar.