80 munud i Huw yn ei gap Chwe Gwlad cyntaf

Perfformiad cryf er y canlyniad

Carwyn
gan Carwyn
F6583BC9-67AD-486F-9AF3-81D0FF1DD548

Chwaraeodd Huw Davies ei gêm gyntaf i Gymru ym mhencampwriaeth rygbi dan 20 y Chwe Gwlad.

Mewn gêm gystadleuol llawn cyffro lle gwelwyd Cymru ac Iwerddon yn defnyddio’r fainc yn helaeth, fe chwaraeodd Huw’r 80 munud lawn.

Er mai colli fu hanes Cymru, roedd Huw yn amlwg trwy’r gêm ac yn amlwg yn ei amddiffyn yn yr ail hanner pan roedd y Gwyddelod yn gorffen yn gryf.

Yn ennill ar y toriad, roedd y dorf ym Mae Colwyn yn gobeithio am fuddugoliaeth yn gêm gynta’r Chwe Gwlad. Ond colli o 44 i 27 fu hanes Cymru yn y diwedd.

Llongyfarchiadau mawr i Huw ar ei gap Chwe Gwlad gyntaf a phob lwc yng ngweddill y bencampwriaeth.