Marchnad Cynhyrchwyr Lleol Cadwyn Ogwen

Mae Cadwyn Ogwen a Llaethdy Gwyn yn cefnogi’r Ŵyl Hinsawdd Dyffryn Ogwen

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Bydd cyfle gwych i gyfarfod y cynhyrchwyr y tu ôl i Cadwyn Ogwen mewn marchnad arbennig fydd yn cael ei gynnal ar ddydd Llun, 1 Mai.

Mae Cadwyn Ogwen yn falch o’r cyfle i fod yn rhan o Ŵyl Hinsawdd Dyffryn Ogwen sy’n cael ei gynnal ar y diwrnod hwnnw. Bydd y digwyddiad yn cael eu cynnal yn Llys Dafydd, Neuadd Ogwen a Llaethdy Gwyn efo nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ystod y dydd i godi ymwybyddiaeth o wydnwch hinsawdd Dyffryn Ogwen, dysgu am effeithiau lleol newid hinsawdd a beth y gellir ei wneud i hyrwyddo a chreu arferion byw cynaliadwy.

Byddwn yn cynnal marchnad cynhyrchwyr Cadwyn Ogwen o 11am tan 3pm yn Llaethdy Gwyn, Bethesda (hen eglwys Gatholig).

Dewch draw am gynnyrch lleol o safon ac am sgwrs i weld os all Cadwyn Ogwen eich helpu i gyrraedd eich nodau amgylcheddol personol i fyw bywyd mwy cynaliadwy. Mae ein cynhyrchwyr yn cynnig amrywiaeth o fwyd, diod a chrefft – am fwy o wybodaeth amdanynt ewch i cadwynogwen.cymru

Rydym wedi bod yn helpu cwsmeriaid yn Nyffryn Ogwen a thu hwnt i leihau eu hôl troed carbon a’u heffaith amgylcheddol drwy gynnwys cynnyrch lleol, cynaliadwy sy’n cael ei ddarparu gan gynhyrchwyr sy’n gwerthfawrogi cynaliadwyedd.

Mae archebion cwsmeriaid hefyd yn cael eu dosbarthu efo’n cerbydau cymunedol trydanol i gadw allyriadau i lawr.

Am fwy o fanylion am yr Ŵyl Hinsawdd Dyffryn Ogwen ac i gadw tocynnau yn rhad ac am ddim ewch i’r wefan.