Llwyddiant i Patrick Rimes yng Ngwobrau Gwerin Cymru

Y cerddor o Gerlan yn ennill fel aelod o grwpiau VRï a Calan

Carwyn
gan Carwyn
CD0DB542-3DCB-45AB-8C2F
3229C559-5E25-4F01-A7FB
DD425900-C462-4CA1-B448
F09CDDCE-FE01-4DA1-8269
446E5C57-B7D3-424E-AF5F

Cafodd y cerddor Patrick Rimes noson i’w chofio yng Ngwobrau Gwerin Cymru.

Llwyddodd i ennill dwy wobr fel aelod o’r grŵp VRï, ac un arall hefyd fel rhan o grŵp Calan.

Yn offerynnwr o fri, mae Patrick yn gerddor proffesiynol sy’n perfformio yn gyson ar hyd a lled y wlad.

Fel aelod o’r grŵp VRï fe lwyddodd i gipio Gwobr Yr Albym Gorau ar gyfer ‘Islais a Genir’ a Gwobr Y Trac Offerynnol Gorau am ‘Yr Ehedydd’.

Mae Patrick hefyd yn aelod o’r grŵp Calan ac enillodd wobr Y perfformiad byw gorau.

Noson a hanner i Patrick felly – llongyfarchiadau mawr!