Lisa Jên yn cyflwyno rhaglen Stori’r Iaith

Yr ail yn y gyfres S4C yn cael ei chyflwyno gan cantores leol 9Bach

Carwyn
gan Carwyn

Enw, wyneb a llais cyfarwydd i ni yma yn Nyffryn Ogwen sy’n cyflwyno’r rhaglen ddiweddaraf o Stori’r Iaith ar S4C.

Mewn cyfres ddogfen newydd sbon ar S4C, mae pedwar cyflwynydd yn mynd â ni ar drywydd hanes y Gymraeg a’u perthynas unigryw nhw â’r iaith.

Yn yr ail raglen, sydd ymlaen ar S4C ar nos Fercher 15 Chwefror, yr actores, y gantores a’r ysgrifenwraig adnabyddus o Fethesda, Lisa Jên, fydd yn edrych ar sefyllfa’r Gymraeg yn lleol.

Yr iaith a’r ardal

Mae’r iaith a’r ardal yn rhan ganolog o hunaniaeth Lisa, sy’n aelod o’r band poblogaidd 9Bach:

“Mae bob dim dwi’n neud, mae bob dim dwi’n ei greu yn deillio o’r lle yma.

“Mae o’n dlws, mae o’n gadarn, a dwi’n falch iawn o huna.”

Mae ei gwreiddiau hi’n ddwfn ym Methesda. Cafodd ei magu mewn teulu dwyieithog – ond Cymraeg oedd iaith y cartref.

Felly mae’r tyndra yma rhwng Cymru a Lloegr, a’r Gymraeg a Saesneg, wedi bod yn llinyn cyson trwy ei bywyd. Nid yn unig yn bersonol ond yn y gymuned hefyd:

“Mae Bethesda wedi Seisnigeiddio yn y deg mlynedd ddiwethaf’,” meddai Lisa.

“Mae o’n broblem, a dwi’n poeni.”

Perthynas gymhleth

Mae’r rhaglen yn olrhain gwreiddiau’r berthynas gymhleth rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Gan gynnwys bwrw golwg arbennig ar un o ddeddfau cyfansoddiadol mwyaf pwysig Prydain, y Deddfau Uno. Cafodd y deddfau effaith hirdymor ar yr iaith Gymraeg sydd dal i’w teimlo hyd heddiw.

Cawn hefyd glywed gan arbenigwyr am bwysigrwydd Beibl Cymraeg William Morgan, y ‘Welsh Not’ a’r Llyfrau Gleision, oedd yn adroddiad swyddogol ar gyflwr addysg yng Nghymru a oedd yn ddamniol o’r Gymraeg a’i siaradwyr. Ac mi fydd Lisa yn darganfod gwybodaeth annisgwyl am y bennod honno yn ein hanes.

Amddiffyn enwau

Yn ogystal â hyn, mi fydd Lisa yn mynd am dro yng nghwmni’r digrifwr a’r darlledwr Tudur Owen, sy’n llysgennad dros y Gymraeg ac yn angerddol am amddiffyn enwau llefydd Cymraeg.

Dros y blynyddoedd, mae o wedi sylwi bod rhai o’r hen enwau Cymraeg yn cael eu Seisnigeiddio, er enghraifft Lake Australia yn lle Llyn Bochlwyd, ac mae hyn wedi ei sbarduno Tudur i frwydro yn ôl.

“Mae enw yn gymaint o ran o dy hunaniaeth di…[ac] yn treiddio’n ddwfn i pwy ydan ni,” meddai.

“A mae o yr un peth efo enwau llefydd. Mae enw yn gwreiddio’r lle i hanes ac i’r bobl sydd wedi byw yna, ac felly yn cysylltu ni efo’r llefydd yna.”

Mae Tudur yn credu fod gan y Cymry Cymraeg ddyletswydd i barhau i ddefnyddio’r enwau, er mwyn iddynt fod yn allwedd i’r rhai sydd wedi symud yma i fod yn rhan o’r hanes.

“Y munud ti’n gwybod be ydi ystyr enw lle – bang! Mae o wedi agor ryw ddimensiwn arall.”

Mae Stori’r Iaith i’w gweld ar S4C ar Nos Fercher 15 Chwefror 9pm neu ar alw ar S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill.