Cynhelir Gŵyl Gwenllïan eleni ar y 10fed a’r 11eg o Fehefin fel dathliad o ferched y Carneddau. Mi fydd hi’n benwythnos yn llawn gweithgareddau, gyda rhywbeth at ddant pawb.
Celf i’r teulu
Gan ddechrau ar fore Sadwrn yng Nghanolfan Cefnfaes, bydd cyfle i deuluoedd fwynhau sesiwn celf, dan arweiniad Menna Thomas, gyda chinio am ddim gan wirfoddolwyr Hwb Ogwen.
Artistiaid ac awduron
Mi gewch chi brynu tocynnau ar gyfer rhaglen lawn ar bnawn Sadwrn fydd yn cynnwys trafodaeth banel gyda’r artistiaid lleol Rebecca Hardy-Griffith, Anna Pritchard, ac Ann Catrin Evans, fydd yn trafod dylanwad cynefin ar eu gwaith.
Yn dilyn te prynhawn, fydd yn cynnwys cynnyrch lleol sydd ar gael trwy Gadwyn Ogwen, mi fydd gwledd o gyfweliadau, trafodaethau a darlleniadau gan rai o’n hawduron lleol mwyaf adnabyddus, gan gynnwys Alys Conran, Angharad Tomos, Annes Glyn a Manon Steffan Ros. Archebwch docyn yma.
Sul yn yr awyr agored
Edrychwn ymlaen at gynnal diwrnod llawn gweithgareddau awyr agored ddydd Sul, gan ddechrau gyda thaith feiciau dan arweiniad Elinor Elis-Williams gyda Beics Ogwen yn darparu beiciau i’r rhai sydd eu hangen.
Bydd Gerddi Ffrancon yn cynnal sesiwn ioga teulu dan arweiniad Leisa Mererid. Yn y pnawn, bydd Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn arwain criw ar daith gerdded Moel Faban, gan dynnu sylw at hanes a natur. Ar y copa, bydd cyfle i fyfyrio ar y golygfeydd anhygoel a defnyddio gwyddiau bach i ddal eu hargraffiadau.
I gloi dydd Sul, arweinia’r Parch Sara Roberts ni ar bererindod fer o’r llyfrgell planhigion yn Gerlan i ffynnon Llechid, gan fyfyrio ar ferched y Carneddau.
Mae Partneriaeth Ogwen yn edrych ymlaen at eich croesawu chi. Mae rhagor o fanylion ar y rhaglen lawn. Plis cysylltwch efo robyn@ogwen.org os oes gynnoch chi unrhyw gwestiynau.