Mae awdurdodau lleol a sefydliadau cymunedol Dyffryn Ogwen wedi dod ynghyd i geisio gwella opsiynau trafnidiaeth a pharcio yn yr ardal.
Mae’r cynlluniau yn cynnwys gwelliannau i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, cyfyngiadau parcio a synwyryddion meysydd parcio. Y bwriad fydd gwella mwynhad pobl o’r ardal a lleihau tagfeydd ac allyriadau carbon.
Bws Ogwen
O fory (1 Ebrill) mi fydd Bws Ogwen, bws cymunedol trydanol Partneriaeth Ogwen yn rhedeg wyth gwaith y dydd o Fethesda i Ogwen law yn llaw â gwasanaeth bws cyhoeddus y T10.
Mae cynllun Bws Ogwen yn darparu safleoedd parcio yng nghymuned Bethesda ac yn cynnig ffordd syml a chynaliadwy i deithio i mewn ac allan o’r ardal gan leihau nifer y ceir ar y ffordd. Hefyd am y tro cyntaf eleni, mi fydd gwasanaeth y bws wennol yn ymestyn i Gapel Curig dwywaith y dydd.
Mi fydd cynnydd yn y gwasanaeth bws cymunedol yn ceisio annog pobl i adael eu ceir gartref neu mewn tref gyfagos a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
“Rydym ni’n falch bod Bws Ogwen, sy’n wasanaeth bws cymunedol eco-gyfeillgar yn mynd i leddfu ar broblemau parcio ac allyriadau yn y Parc Cenedlaethol yn ogystal â chreu budd economaidd i bentref Bethesda,” meddai Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen.
“‘Da ni’n gobeithio bydd ymwelwyr yn dewis gwario ychydig o amser ac arian yma cyn dal y bws i’r mynyddoedd. ‘Da ni hefyd yn llogi beiciau trydan i’r rheini sydd am deithio ar ddwy olwyn.”
Gwella parcio
Yn ychwanegol i welliannau gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, mae synwyryddion safleoedd parcio wedi eu gosod ym maes parcio Canolfan Ogwen.
Trwy ap Parcio Eryri mi fydd hi’n bosib canfod faint o safleoedd gwag sydd ar gael a thrwy hynny yn osgoi tagfeydd diangen.
“Rydym yn falch o allu gweithio gyda’n gilydd er mwyn datrys problemau parcio yn Ogwen,” meddai Angela Jones, Rheolwr Partneriaethau Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
“Nid gwasanaethau ar gyfer ymwelwyr yn unig yw hyn, mi fydd yn rhoi budd i’r gymuned trwy greu amgylchedd diogel a chynaliadwy leol. ‘Da ni’n gobeithio bydd y mesuriadau hyn yn annog mwy o bobol i ymweld â’r ardal yn gyfrifol a mwynhau’r oll sydd yno i’w gynnig.”
Cynllunio o flaen llaw
Mae cyfyngiadau parcio yn cael eu gosod mewn lleoliadau strategol ar hyn o bryd ac mi fydd yn cael eu gorfodi ar y cyd gan Gynghorau Gwynedd a Conwy. Mi fydd hyn yn lleihau tagfeydd, hyrwyddo teithio cynaliadwy a pharchu’r amgylchedd a chymunedau lleol.
Mi fydd llinellau melyn dwbl yn dangos y cyfyngiadau parcio yn glir mewn ardaloedd problemus, yn enwedig yn ystod y tymor brig pan mae ymwelwyr yn heidio i’r ardal i fwynhau’r golygfeydd godidog a gweithgareddau awyr agored.
“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i ddatrys problemau parcio anghyfrifol yn ardal Ogwen,” esboniodd David Cooil, Pennaeth Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru.
“Rydym yn gobeithio bydd y cynlluniau diweddaraf hyn, yn ychwanegol i welliannau llynedd, yn sicrhau bod pawb yn cael mwynhau’r ardal yn ddiogel. Rydym yn annog rheini sy’n teithio i’r ardal i gynllunio o flaen llaw ac i barcio’n gyfrifol.”
Gallwch wirio amodau traffig a’r ffyrdd cyn teithio i Ogwen ar wefan Traffig Cymru.