Gwefan newydd yn cofnodi pwysigrwydd corlannau’r ardal

Lluniau ac ymchwil gan Nigel Beidas yn adrodd hanes pwysig lleol

Carwyn
gan Carwyn

Wedi pum mlynedd o dynnu lluniau ac ymchwilio i hanes corlannau’r ardal, mae Nigel Beidas wedi sefydlu gwefan newydd sy’n dwyn yr holl waith ynghyd.

Yn ffotograffydd brwd, mae Nigel wedi tynnu lluniau dros hanner cant o gorlannau defaid o’r awyr ac wedi pori i’w hanes cyfoethog a’r defnydd ohonynt gan ffermwyr Dyffryn Ogwen.

Trawiadol a chywrain

“Mae dros 3,500 o gorlannau yng ngogledd Cymru, gan gynnwys nifer o rai ‘amlgellog’, sef corlannau sydd â phedair neu fwy o gelloedd,” meddai Nigel.

“Nod y wefan hon yw cofnodi’r corlannau hyn, gan ddangos lle y maen nhw, sut y maen nhw’n gweithio a’u lle yn hanes ffermio defaid yng ngogledd Cymru.

“Maent yn adeileddau trawiadol a chywrain sydd wedi sefyll prawf amser ac mae llawer yn cael eu defnyddio hyd heddiw.”

Dywed hefyd nad ydi’r gwaith wedi gorffen eto, ac mae’n gobeithio y bydd y wefan yn parhau i dyfu yn y dyfodol.

Diolch

Mae Nigel yn awyddus i ddiolch i nifer o bobl a sefydliadau sydd wedi ei gynorthwyo ar hyd y blynyddoedd.

“Gyda llawer o help gan lawer o bobl rydw i bellach wedi creu gwefan i gofnodi corlannau’r Carneddau, gan edrych ar sut maen nhw’n cael eu defnyddio, eu hanes a dros 50 o luniau o’r awyr,” meddai.

“Dechreuais dynnu lluniau o’r adeileddau hyn o’r awyr yn 2018 a hyd yn hyn rydw i wedi ymweld â dros 50 o safleoedd, y rhan fwyaf ohonynt, ond nid pob un, yn y Carneddau.

“Mae siarad â ffermwyr, archeolegwyr a thrigolion lleol yr ardal wedi helpu i gasglu’r holl wybodaeth a geir ar y wefan hon.”

Mae’n annog unrhyw un sydd â sylwad neu adborth i gysylltu fel y gall ychwanegu at a datblygu’r wefan ddifyr.

Ewch draw i wefan Corlannau’r Carneddau i weld lluniau arbennig Nigel a dysgu mwy am yr hanes.