Mae’r Gofod Gwnïo bellach yn rhan sefydledig o nosweithiau Mawrth ar Stryd Fawr Bethesda.
Rydym wedi bod yn ffodus i gael grŵp da o bobl profiadol i ymuno â ni a helpu unrhyw un sy’n dechrau dysgu sgiliau gwnïo sylfaenol neu sydd eisiau cymorth gyda’u prosiectau parhaus.
Mae gennym dri pheiriant gwnïo, “overlocker” a pheiriant brodwaith ar gael yn ogystal â rhai meddyliau creadigol i helpu gyda syniadau.
Syniadau uwchgylchu
Yn ogystal â dysgu sgiliau gwnïo sylfaenol a sut i ddefnyddio’r peiriannau, mae ein haelodau wedi dod o hyd i rai syniadau clyfar ar gyfer uwchgylchu deunyddiau.
Mae rhai siwtiau gwlyb ail law wedi’u trawsnewid yn wisg nofio a gorchudd ar gyfer bar pŵer.
Rydym hefyd wedi cael rhai aelodau newydd-ddyfodiaid yn gwneud bagiau allan o hen grysau-t i ymarfer eu sgiliau. A gwisg colomen giwt ar gyfer Diwrnod y Llyfr!
Os ydych awydd dysgu sgiliau gwnïo neu ddefnyddio ein peiriannau ar gyfer prosiect galwch heibio Swyddfeydd Dyffryn Gwyrdd (27 Stryd Fawr, Bethesda) rhwng 5-7pm ar ddydd Mawrth. Fydd na groeso mawr a phanad cynnes!